Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Clinig Hunangymorth a Chymorth Cyfraith Teulu

Dydd Iau, 15 Chwefror 2024
Calendar 17:30-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

An illustration of a separated family

Yn gyffredinol, nid yw cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer achosion llys preifat sy’n cynnwys plant. Mae hynny’n golygu, pan fydd teulu’n chwalu, bod yn rhaid i’r rhieni naill ai dalu am gyngor cyfreithiol yn breifat neu gynrychioli eu hunain (fel ymgyfreithwyr drostyn nhw eu hunain).

Mae’r Clinig Hunangymorth a Chymorth Cyfraith Teulu yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yma i’ch helpu i lywio’r broses anodd hon.

Gall myfyrwyr y Gyfraith, dan oruchwyliaeth ymarferwyr cyfreithiol hyfforddedig a phrofiadol, roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wella eich dealltwriaeth o achosion llys sy’n ymwneud ag anghydfodau ynghylch gofal eich plentyn.
 
Rhennir gwybodaeth ar draws 3 gweithdy. Nod y gweithdai yw eich helpu i deimlo’n fwy parod ar gyfer proses y llys ac addysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i gynrychioli eich hun. Bydd myfyrwyr yn rhannu gwybodaeth am broses y llys, yr egwyddorion cyfreithiol sy’n gymwys i achosion plant a’r gorchmynion y gall y Llys Teulu eu gwneud.

Gweithdy 1 – Datrys anghytundebau ynghylch plentyn
Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar opsiynau eraill i fynd o flaen llys a sut i wneud cais os na allwch chi a’ch cyn bartner ddod i gytundeb.

Gweithdy 2 – Y gwrandawiad cyntaf
Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad cyntaf yn y llys a beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n mynd o flaen llys.

Gweithdy 3 – Y gwrandawiad olaf
Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad olaf a’r pwerau sydd gan y llys wrth benderfynu ar drefniadau gofal plentyn yn y dyfodol.

Noder: Ni fydd y gweithdai’n delio ag achosion cyfraith gyhoeddus (h.y. pan fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â’r teulu), gan fod cymorth cyfreithiol ar gael fel arfer i geisio cyngor cyfreithiwr. Ni all myfyrwyr roi cyngor cyfreithiol ar achosion unigol.

Cynhelir y gweithdy cyntaf ar 15 Chwefror 2024. 

Gellir cyflwyno’r gweithdai naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb yn Adeilad y Gyfraith, Rhodfa’r Amgueddfa, Caerdydd CF10 3AX. Mae cofrestru’n hanfodol. I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau ac i gofrestru eich presenoldeb, cysylltwch â thîm Pro Bono yn probono@caerdydd.ac.uk

1.29
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Prifysgol Caerdydd, Adeilad y Gyfraith, Rhodfa’r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3 AX

Rhannwch y digwyddiad hwn