Ewch i’r prif gynnwys

Seminar Ymchwil - Dr Siwan Rosser a Dr Rhiannon Marks

Dydd Mercher, 13 Mawrth 2024
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Yn y seminar hwn, bydd Siwan Rosser a Rhiannon Marks yn rhannu prif ganfyddiadau 'Darllen Hunaniaethau', prosiect ymchwil sy'n cydweithio ag athrawon pwnc y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd er mwyn archwilio'r berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Yn y cyd-destun addysgol cyfoes, mae archwilio hunaniaethau yn bwysicach nag erioed. Yn y Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2021), pwysleisir yn y Pedwar Diben bwysigrwydd datblygu ‘dinasyddion egwyddorol’ sy’n ‘wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol; yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol [...] ac yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd’. Amcan ‘Darllen Hunaniaethau’ yw archwilio’r rôl allweddol y gall llenyddiaeth greadigol ei chwarae wrth ddatblygu dinasyddion sy’n effro i’r byd o’u cwmpas. Gan dynnu ar ymchwil blaengar ym maes theori a beirniadaeth lenyddol Gymraeg, byddwn yn trafod sut y gellir dadansoddi testunau creadigol mewn ffyrdd sy'n arwain at drafodaethau newydd ar hunaniaethau yn y dosbarth. Ariennir 'Darllen Hunaniaethau' gan yr AHRC.

Rhannwch y digwyddiad hwn