Ewch i’r prif gynnwys

Gweminarau’r Gaeaf I Fenywod: Y menopos a salwch meddwl

Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2024
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Graphic advertising first instalment of webinar series using cool-tones

Rydym yn falch o allu cynnig cyfres o weminarau sy’n trafod sut mae prosesau atgenhedlu megis beichiogrwydd, y cylchred mislif, a heneiddio atgenhedlol yn effeithio ar iechyd meddwl menywod a phobl y nodwyd eu bod yn fenywod adeg eu geni (AFAB).

Ym mhob gweminar, bydd ein hymchwilwyr yn trafod y gwaith diweddaraf maen nhw’n ei wneud ym mhob maes. Bydd pobl sydd â phrofiad byw hefyd yn rhannu eu straeon personol ynghylch y cyflyrau hyn.

Rydyn ni’n cynnal y sesiynau hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cyflyrau ac maent yn agored i’r cyhoedd, ynghyd â gweithwyr iechyd proffesiynol a’r bobl hynny sydd â diddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl.

Sut mae'r menopos yn effeithio ar iechyd meddwl
Amcangyfrifir mai tua 70% o'r 1.2 biliwn o fenywod yn y byd dros 45 oed sy’n datblygu symptomau niwrolegol a seiciatrig yn ystod y perimenopos (y blynyddoedd hynny cyn cyfnod y mislif olaf).

Awgryma’r ymchwil hefyd fod menywod yn eu perimenopos mewn mwy o berygl o ddatblygu iselder difrifol, sgitsoffrenia, neu anhwylder deubegynol, tra bydd y symptomau a brofir gan y menywod hynny sydd eisoes wedi cael diagnosis yn gwaethygu.

Fodd bynnag, prin iawn yw’r wybodaeth sydd ar gael am y cysylltiad rhwng y perimenopos ac iechyd meddwl, a’r hyn sy’n achosi i rywun fynd yn sâl yn ystod y cyfnod hwn o bontio i’r menopos, yw’r risg fwyaf i fenywod, eu teuluoedd, a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Bydd y gweminar hwn yn darparu sylfaen gadarn i’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r perimenopos a arweinir gan yr Athro Arianna Di Florio, Seiciatrydd o Brifysgol Caerdydd, wrth iddi gyflwyno cysyniadau clinigol i’ch helpu i lywio’r maes ymchwil a gofal y menopos.

Gwybodaeth am NCMH
Mae’r Ganolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl (NCMH) yn dod ag ymchwilwyr o safon fyd-eang o brifysgol Caerdydd, Abertawe a Bangor ynghyd i ddysgu mwy am yr hyn sy’n sbarduno ac yn achosi problemau iechyd meddwl.
Ein nod yw helpu i wella diagnosis, triniaeth a chymorth i’r miliynau o bobl a effeithir gan salwch meddwl bob blwyddyn, yn ogystal â mynd i’r afael â’r stigma sy’n wynebu cynifer o bobl. Mae ymgysylltu â gwasanaethau a'u defnyddwyr, y trydydd sector a'r cyhoedd ehangach i gynyddu dealltwriaeth o salwch meddwl, a chefnogi a chynnal ymchwil iechyd meddwl, yn allweddol i gyflawni’r nodau hyn.

Rhannwch y digwyddiad hwn