Ewch i’r prif gynnwys

Sesiwn Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd - COP28: Rheidrwydd newydd i weithredu ar yr hinsawdd?

Dydd Mercher, 24 Ionawr 2024
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

COP28 UAE logo

Ymunwch â Dr Erin Gill, Cyfarwyddwr Marchnata Byd-eang Arup, ymgynghoriaeth datblygu cynaliadwy byd-eang, ac aelod o Fwrdd Cynghori Rhyngwladol Ysgol Busnes Caerdydd, sydd newydd ddychwelyd o gymryd rhan yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP 28 yn Dubai, i glywed am ei phrofiad uniongyrchol o'r digwyddiad.

Bydd Erin yn archwilio sut y gall busnesau o bob math a maint yn ogystal â llywodraethau lleol a chenedlaethol ddefnyddio’r hyn a drafodwyd ac y cytunwyd arno yn Dubai, fel ysgogiad newydd i weithredu. I roi’r datblygiadau hyn yn eu cyd-destun, bydd Erin yn rhannu strategaeth Arup sy’n ymwneud â newid hinsawdd, gan drafod ei rôl fel galluogwr datblygu cynaliadwy, a bydd yn gwahodd ein cymuned Ysgol Busnes i fyfyrio ar sut y gallant gymhwyso safbwyntiau tebyg i’w hagweddau strategol eu hunain at newid hinsawdd.

Bywgraffiad y Siaradwr

Arweiniodd Erin Gill dîm Arup yn COP28, a oedd yn cynnwys cyfranogiad Prif Swyddog Gweithredol byd-eang y cwmni. Mae Arup yn ymgynghoriaeth datblygu cynaliadwy byd-eang sy’n eiddo i’r gweithwyr, sy’n enwog am ei harbenigedd mewn cynllunio a dylunio’r amgylchedd adeiledig. Mae'n cyflogi mwy na 300 o bobl yng Nghymru. Erin yw cyfarwyddwr marchnata byd-eang Arup. Cyn ymuno â’r cwmni, treuliodd ddau ddegawd fel newyddiadurwr ynni a’r amgylchedd, gan arbenigo mewn polisi hinsawdd a chynaliadwyedd rhyngwladol, rheoleiddio, ac ymateb busnes iddo. Mae ganddi PhD mewn hanes amgylcheddol o Brifysgol Aberystwyth ac mae'n amgylcheddwr siartredig.

Yn 2021, cyhoeddodd Arup na fyddai bellach yn ymgymryd â gwaith newydd a gynlluniwyd i gefnogi echdynnu, mireinio neu gludo tanwydd ffosil. Yn y flwyddyn gyntaf ar ôl gweithredu’r ymrwymiad hwnnw, cynyddodd refeniw busnes ynni byd-eang Arup 33%.

Gweld Sesiwn Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd - COP28: Rheidrwydd newydd i weithredu ar yr hinsawdd? ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education