Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd a Xiamen - Arddangosfa Ffotograffiaeth Dinasoedd wedi’u Gefeillio

Calendar Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023, 09:00-Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023, 19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of illuminated downtown Xiamen by Wang Haiyan

Mae'r arddangosfa ffotograffau hon yn dathlu 40 mlynedd ers dechrau’r cysylltiadau rhwng Caerdydd a Xiamen. Dathlodd Xiamen, dinas arfordirol yn nhalaith Fujian yn Tsieina, y pen-blwydd yma ar 12 Hydref 2023.

Mae'r arddangosfa hon yn adrodd hanes y ddwy ddinas yn ystod y pedwar degawd diwethaf. Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n curadu’r arddangosfa a gallwch ei gweld ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Pafiliwn Grange, a Llyfrgell Iechyd Adeilad Cochrane Prifysgol Caerdydd. Mae’r arddangosfa’n dangos tirweddau newidiol y ddwy ddinas a sut mae pob un wedi ehangu a datblygu.

Sefydlir dinasoedd gefeillio i hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol a masnachol rhwng dinasoedd mewn gwledydd gwahanol ac ym 1983, Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina. Ers hynny, bu llawer o gysylltiadau gefeillio eraill â dinasoedd yn Tsieina ar draws y DU gan ddilyn yr un patrwm.

Ers y 1980au, mae creu partneriaethau gefeillio â dinasoedd yn Tsieina wedi bod yn ffordd o ddatblygu cysylltiadau economaidd yn bennaf. Fodd bynnag, i Gaerdydd a Xiamen, rhoddwyd cryn bwysigrwydd a gwerth bob amser ar brosiectau addysgol a diwylliannol ar y cyd. Mae sefydlu Sefydliad Confucius Caerdydd yn 2008 yn un enghraifft o natur ddeinamig dwy ddinas ac o'r bartneriaeth gref rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Xiamen. Mae llawer o fyfyrwyr a chymunedau lleol wedi elwa o'r rhaglenni cyfnewid diwylliannol ac addysgol, yn ogystal â’r addysgu iaith a diwylliant Tsieineaidd sy’n digwydd yn y Sefydliad. Mae partneriaethau rhwng Ysgol Ieithoedd Tramor Xiamen a Choleg Caerdydd a'r Fro; Ysgol Gerdd Xiamen a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn enghreifftiau eraill o'r deinamigrwydd hwn.

Cynhyrchir yr arddangosfa hon gan Sefydliad Confucius Caerdydd mewn cydweithrediad â'n partneriaid yn y DU a Xiamen a bydd ar daith yn y lleoliadau a'r dyddiadau canlynol:

  • Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Oriel Viriamu Jones - 21-28 Tachwedd 2023
  • Pafiliwn Grange - 28 Tachwedd - 5 Rhagfyr 2023
  • Cyntedd y Llyfrgell Iechyd, Adeilad Cochrane, Prifysgol Caerdydd - 5-12 Rhagfyr 2023

Ceir mynediad at yr arddangosfa dim ond yn ystod oriau agor arferol yr adeilad.

Rhannwch y digwyddiad hwn