Ewch i’r prif gynnwys

Addysgu ynghylch sut i wrando er mwyn dysgu siarad. Myfyrdodau ar gaffael Sbaeneg yn iaith dramor.

Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2023
Calendar 15:30-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of José Miguel García Calero on a navy background

Darlith gyhoeddus/ gweithdy

Yn agored i bawb

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Sbaeneg.

Crynodeb

Yn y cyflwyniad/gweithdy hwn, byddwn yn myfyrio gyda'n gilydd ar sut y gall cymhwysedd clywedol fod yn fan cychwyn i ddatblygu a gwella'r sgiliau iaith allweddol eraill. Nod y sgwrs hon yw rhannu ein profiadau o addysgu a hyfforddi cyfieithwyr ar y pryd yn y Faculté de Traduction et Interprétation - École d'Interprètes Internationaux de la Université de Mons a sut y gellir defnyddio hyn mewn cyd-destunau dysgu eraill.

Bywgraffiad

Darlithydd Sbaeneg yn y Faculté de Traduction et Interprétation - École d'Interprètes Internationaux de la Université de Mons yw José Miguel García Calero, lle mae wedi bod yn gweithio ers 22 mlynedd.

Astudiodd BA ym maes Ieithoedd ym Mhrifysgol Falensia ac mae wedi bod yn addysgu Sbaeneg yn iaith dramor ers 25 mlynedd. Mae wedi cydweithio â Sefydliad Cervantes ym Milan a Brwsel.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mawrth, 31 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.