Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Gweminarau Siapanaeg Caerdydd: Comedi, Diwylliant a’r Siapanaeg gyda Dōgen

Dydd Mercher, 25 October 2023
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Dogen standing in front of a microphone looking at the camera. There is a diagram to the left of Dogen with the text 'rice balls'. Behind Dogen are shelves holding books.

Mae'r 13eg digwyddiad yn y gyfres o ddarlithoedd Siapanaeg Caerdydd yn cyflwyno Dōgen, digrifwr ar YouTube yn Siapan sy'n adnabyddus am ei sioeau byr comedi ac am addysg Siapanaeg. Mae’r Gyfres Darlithoedd Ar-lein Siapanaeg Caerdydd yn archwilio agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu Siapaneg. Ariennir y gyfres gan Sefydliad Japan yn Llundain. Mae recordiadau o'r Gyfres Darlithoedd Ar-lein Siapanaeg Caerdydd ar gael ar ein sianel YouTube.

Gwybodaeth am y gyfres

Mae myfyrwyr Japaneeg fel Iaith Dramor yn cael llai o gyfleoedd i ddod i ddeall gwybodaeth gyfoes berthnasol neu ddeall cyd-destunau diwylliannol oherwydd eu bod yn astudio y tu allan i Japan. At hynny, mae cydnabod cymdeithas Japaneaidd mewn ystyr ehangach ac ystyried sut y gellir cymhwyso eu gallu ieithyddol yn y Japaneeg i'w dyfodol eu hunain yn heriau i ddysgwyr o'r fath. Mae’n hanfodol felly nid yn unig dysgu’r iaith darged ond hefyd gwybod am agweddau amlweddog y wlad. Ar ben hynny, mae angen cymorth ar athrawon sy'n ymwneud ag addysg iaith Japaneeg y tu allan i Japan o ran cael gafael ar a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n adlewyrchu llawer o'r tueddiadau a'r normau presennol yn y gymdeithas Japaneaidd gyfoes, er mwyn cyflwyno profiad dysgu mwy dilys.

Nod Cyfres Darlithoedd Ar-lein Siapanaeg Caerdydd yw rhoi cyfle i’r rhai sy'n astudio iaith a diwylliant Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yr amrywiol ddysgwyr, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan i archwilio a deall agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith.

Crynodeb

Yn y ddarlith hon mae Dōgen yn sôn am y cymhelliant i astudio Siapanaeg, sut y dysgodd Siapanaeg, a chyngor ar sut i ddysgu Siapanaeg yn effeithiol. Bydd hefyd yn sôn am sut mae meistroli Siapanaeg wedi agor drysau iddo yn ei fywyd personol a'i yrfa.

Bydd y weminar yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda Dōgen. Os oes gennych chi gwestiynau i Dōgen am ddysgu Siapanaeg, cyflwynwch nhw gan ddefnyddio’r ffurflen gofrestru.

Bywgraffiad

Ar y groesffordd rhwng comedi a seineg y Siapanaeg, mae Dōgen yn adnabyddus am ei fideos doniol ar YouTube sy'n mynd i'r afael â diwylliant a bywyd Siapan yn ogystal a’i hyfedredd yn y Siapanaeg.

Yn wreiddiol o'r Unol Daleithiau, graddiodd yn ieithyddiaeth y Siapanaeg ar ôl astudio dramor am flwyddyn yn Tokyo. Ar ôl graddio, dychwelodd i Siapan yn 2009 i astudio ar Raglen JET, gan fynd ar lleoliad gwaith yn Nhalaith Oita, ac arweiniodd hyn yn y pen draw at swydd weinyddol mewn prifysgol yn Oita.

Dechreuodd greu cynnwys yn YouTube yn 2016. Erbyn hyn mae pobl wedi ymweld â’r sianel mwy na 69 miliwn o weithiau ac mae ganddo fwy na 560 mil o danysgrifwyr ledled y byd. Bellach mae’n byw yn Beppu, Oita. Mae hefyd yn addysgu seineg ac acen traw y Siapanaeg ar-lein ac mae wedi cyhoeddi nifer o flodeugerddi a straeon byrion Siapanaeg ar-lein.

Trefn y digwyddiad a recordio

Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 11 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn