Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2023

Dydd Mercher, 18 October 2023
Calendar 09:15-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Oeddech chi’n ymwybodol bod caethwasiaeth fodern yn bodoli yng Nghymru ac ar draws y byd?

Y llynedd, nodwyd bod dros 500 o ddioddefwyr honedig o’r drosedd hon wedi cael eu hadnabod gan Ymatebwyr Cyntaf mewn lleoliadau ar draws Cymru. Yn fyd-eang mae degau o filoedd o bobl wedi’u dal mewn caethwasiaeth fodern mewnsefyllfaoedd lle maent yn cael eu hecsbloetio a’u cam-drin.

Eleni, i nodi Diwrnod Gwrthgaethwasiaeth ar 18 Hydref, rydym yn trefnu cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2023. Bydd y gynhadledd, a gynhelir gan Ysgol Busnes Caerdydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yr heddlu a sefydliadau’r trydydd sector, gan gynnwys aelodau o Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru, yn gyfle i glywed gan ymarferwyr rheng flaen ac arbenigwyr ac i rwydweithio â nhw.

Bydd siaradwyr proffil uchel yn cymryd rhan, gan gynnwys:

  • Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
  • Y Fonesig Sara Thornton, cyn-Gomisiynydd Gwrthgaethwasiaeth Annibynnol (2019-22)
  • Martin Plimmer, Arweinydd Ymchwiliadau Cenedlaethol, yr Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur
  • Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd

Gallwch ymuno â’r gynhadledd naill ai ar-lein drwy Microsoft Teams neu drwy fynd i Ysgol Busnes Caerdydd. Nifer cyfyngedig o docynnau wyneb yn wyneb sydd ar gael oherwydd maint y lleoliad – felly rydym yn eich annog i gadw lle yn gynnar.

Bydd y gynhadledd o ddiddordeb i ystod eang o bobl a sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ac rydym yn croesawu ac yn annog cyfraniadau gan y rheini sydd â phrofiad bywyd o gaethwasiaeth fodern.

Cysylltwch â Executive-Education@cardiff.ac.uk am ragor o wybodaeth ac os oes gennych ymholiadau.

Gweld Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2023 ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education