Pan nad yw’r cyffuriau’n gweithio - sut y gellir defnyddio therapïau uwch i drin clefyd niwroddirywiol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Science in Health Public Lecture series logo](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2768011/SiH-Public-Lecture-series-logo-2023-9-28-14-2-21.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Yn achos nifer o gyflyrau lle mae'r ymennydd yn stopio gweithio'n iawn oherwydd difrod i gelloedd yr ymennydd neu oherwydd bod celloedd yr ymennydd yn marw (a elwir yn anhwylderau niwroddirywiol), dim ond rheoli symptomau’r clefyd mae'r meddyginiaethau sydd ar gael i drin y cyflyrau hyn.
Mae prinder o feddyginiaethau sy'n gallu arafu neu atal niwroddirywiad. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu diddordeb mewn datblygu triniaethau newydd sy'n wahanol i gyffuriau, am eu bod yn defnyddio celloedd neu enynnau (a elwir yn therapïau uwch) i dargedu clefydau.
Yma byddwn yn archwilio sut mae gwahanol therapïau uwch yn cael eu datblygu yn driniaethau ar gyfer clefydau niwroddirywiol.