Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i gael eich ysbrydoli! Sut i lwyddo wrth weithio ym meysydd STEM

Dydd Mawrth, 17 October 2023
Calendar 11:00-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Get inspired! How to succeed in your STEM career

Ydych chi’n datblygu eich gyrfa neu’n ymddiddori mewn gweithio ym meysydd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)? Pa heriau sy'n eich wynebu, a sut allwch chi eu goresgyn?

Nod ein gweminar yw eich ysbrydoli a'ch cefnogi chi drwy roi’r cyfle i chi wrando ar brofiadau menywod sydd wedi llwyddo ym meysydd STEM. Bydd y menywod hyn yn rhannu gwybodaeth werthfawr am faterion fel arweinyddiaeth, datblygiad personol, cydbwysedd bywyd-gwaith, cymorth gyrfa, mentora a mwy.

Ymunwch â ni ddydd Mawrth, 17 Hydref (11am BST / 12pm CEST) mewn digwyddiad rhithwir lle bydd araith arbennig gan yr Athro Simonetta Manfredi, Athro Rheoli Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesedd Prifysgol Oxford Brookes.

Bydd cyflwyniadau hefyd gan fodelau rôl o bob rhan o Ewrop – menywod rhyfeddol sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at eu priod feysydd. Bydd y menywod hyn yn rhannu eu profiadau ac yn rhoi cyngor gwerthfawr ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithio ym meysydd STEM.

Mae’r gweminar hwn yn rhad ac am ddim. Croeso i bawb.

Ein panel 

  • Yr Athro Simonetta Manfredi, Athro Rheoli Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesedd Prifysgol Oxford Brookes, y DU (siaradwr agoriadol)
  • Yr Athro Adriana Albini, Athro Patholeg Gyffredinol ym Mhrifysgol Milano-Bicocca ac Uwch Wyddonydd yn Sefydliad Oncoleg Ewropeaidd (IEO) IRCCS, yr Eidal
  • Dr Virginia Petre (Vasile), Darlithydd yng Nghyfadran Peirianneg Ynni Prifysgol Politehnica Bucharest, Rwmania

Dr Gemma Modinos, Cadeirydd blaenorol Academi Ifanc Ewrop (YAE) fydd yn cadeirio’r sesiwn.

Rhannwch y digwyddiad hwn