Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Darlithoedd Japaneg Caerdydd: Cydsynio a Thramgwyddo: Trin a Thrafod Caneuon Serch Japaneg Cyfoes o Dynesiad Beirniadaeth Rhyw

Dydd Mercher, 26 Ebrill 2023
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Head-and-shoulders image of Dr Chiharu Chujo smiling

Dyma ddarlith gyhoeddus ar-lein gyda Dr Chiharu Chujo (Prifysgol Astudiaethau Tramor Tokyo), yn rhan o Gyfres Darlithoedd Japaneg Caerdydd sy’n trin a thrafod agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu Japaneg. Ariennir y digwyddiad gan Sefydliad Japan, Llundain. Mae recordiadau o Gyfres Darlithoedd Japaneg Caerdydd ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube.

Crynodeb
Yn y ddarlith hon, byddwn yn trin a thrafod caneuon serch Japaneg poblogaidd a chyfoes a’u strwythurau cymdeithasol o dynesiad beirniadaeth rhyw. Mae thema cariad neu berthnasoedd agos wedi bod yn destun ymchwil ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac yn y 1980au, canolbwyntiodd astudiaethau rhywedd yn Japan ar hunaniaeth merched ar ôl priodi. Wrth i astudiaethau ffeministaidd a rhywedd ddatblygu yn y 1980au, dechreuwyd beirniadu'r "ideoleg o gariad rhamantus" a ddaeth i'r amlwg yn y 19eg ganrif, sef bod cariad a phriodas yn anwahanadwy ac mai priodas oedd canlyniad cariad. Er bod y syniad hwn yn ymddangos yn flaengar, mae'n gyfyngol mewn gwirionedd, oherwydd ei fod yn tybio mai priodas yw'r unig ffordd o gyfreithloni perthynas agos.

Fodd bynnag, mae cymdeithas yn Japan yn dod yn fwy agored i drafod gwahanol fathau o gariad, gan gynnwys cariad cyfunrywiol, yn ogystal â thermau fel 'amlgarwriaeth', 'aromantig' a 'quoiromantig'. Mae'r trafodaethau hyn ynghylch syniadau newydd o berthnasoedd rhamantus a chyfeiriadedd rhywiol yn cyffwrdd â goddrychedd pobl, yn enwedig y rhai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn wrywod.

Drwy roi ystyriaeth i ddamcaniaethau dynesiad beirniadaeth rhyw sy’n ymwneud â’r ideoleg o gariad rhamantus, a hynny wrth ddadansoddi geiriau caneuon serch Japaneg o’r 1970au hyd heddiw, byddwn yn trin a thrafod sut mae cariad yn cael ei gynrychioli a’r cysylltiad â hunaniaeth fenywaidd a hunaniaeth nad yw’n wrywaidd.Byddwn hefyd yn trin a thrafod y berthynas bŵer rhwng dynion a menywod, yn ymdrin â perthnasoedd o safbwynt trawsryweddol, ac yn edrych ar agweddau ar gariad sy’n tramgwyddo o dynesiad beirniadaeth rhyw.

Bywgraffiad
Mae gan Dr Chiharu Chujo PhD mewn Astudiaethau Japaneg, a bydd yn dechrau swydd Darlithydd y cafodd ei phenodi’n benodol iddi ym Mhrifysgol Astudiaethau Tramor Tokyo ym mis Ebrill eleni. Roedd ei thraethawd PhD yn canolbwyntio ar gerddorion benywaidd Japaneaidd a oedd yn ymwneud â gwleidyddiaeth, gan gynnwys materion yn ymwneud â rhywedd o’r 1970au hyd at y 2010au. Yn ei hymchwil gyfredol, mae’n parhau i ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â rhywedd yn niwydiant cerddoriaeth Japan, sydd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth amgen fel pync a rap.

Am y gyfres
Mae myfyrwyr Japaneeg fel Iaith Dramor yn cael llai o gyfleoedd i ddod i ddeall gwybodaeth gyfoes berthnasol neu ddeall cyd-destunau diwylliannol oherwydd eu bod yn astudio y tu allan i Japan. At hynny, mae cydnabod cymdeithas Japaneaidd mewn ystyr ehangach ac ystyried sut y gellir cymhwyso eu gallu ieithyddol yn y Japaneeg i'w dyfodol eu hunain yn heriau i ddysgwyr o'r fath. Mae’n hanfodol felly nid yn unig dysgu’r iaith darged ond hefyd gwybod am agweddau amlweddog y wlad. Ar ben hynny, mae angen cymorth ar athrawon sy'n ymwneud ag addysg iaith Japaneeg y tu allan i Japan o ran cael gafael ar a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n adlewyrchu llawer o'r tueddiadau a'r normau presennol yn y gymdeithas Japaneaidd gyfoes, er mwyn cyflwyno profiad dysgu mwy dilys.

Nod Cyfres Darlithoedd Ar-lein Caerdydd-Siapan yw rhoi cyfle i’r rhai sy'n astudio iaith a diwylliant Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yr amrywiol ddysgwyr, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan i archwilio a deall agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith. Ariennir y gyfres gan Sefydliad Japan yn Llundain.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 19 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn