Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydion y Dyfodol Colledig: Ysbrydoleg a Parábola del retorna Juan Soto

Dydd Mercher, 26 Ebrill 2023
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Girl walking in street with mobile phone in hand

Gweminar gyda siaradwr gwadd, Dr Cherilyn Elston (Prifysgol Reading), fel rhan o thema ymchwil Astudiaethau Maes Byd-eang Seiliedig ar Ieithoedd yn yr Ysgol.

Crynodeb
Ym maes ysgolheictod diweddar, ystyrir bod gwaith y gwneuthurwr ffilmiau o Golombia, Juan Soto, yn waith sy’n hawlio ei le ymysg gwaith cenhedlaeth newydd arwyddocaol o wneuthurwyr ffilm sy’n cynhyrchu gweithiau arbrofol; gweithiau sy’n gwrth-weithio’n erbyn y cynrychioliadau tra-arglwyddiaethol (echdynnol) a geir o wrthdaro arfog y wlad. Gan adeiladu ar yr ysgolheictod hwn, mae'r papur hwn yn archwilio ymgysylltiad arbrofol Soto â'r cof a pherthynas ei deulu ei hun â thrais gwleidyddol trwy ei ffilm 2017 Parabola del retorno (Parable of the Return), sy'n archwilio alltudiaeth a diflaniad ewythr Soto, Wilson Mario. Mae'r erthygl yn dadlau, fodd bynnag, bod ymgysylltu beirniadol y ffilm â'r archif clyweledol hefyd yn gysylltiedig â thro diweddar mewn cynhyrchu yn y maes diwylliannol yn Colombia lle mae rhithioldeb (spectrality) ac ysbrydoleg, sef arddangos bod ysbryd diwylliannol neu gymdeithasol y gorffennol yn parhau i fod yn y presennol (haunting) wedi’u harchwilio mewn amrywiol ddulliau, gan geisio dwyn y distawrwydd ynghylch hanes o drais Columbia i gyd-destun presennol prosesau meithrin heddwch a chyfiawnder trosiannol diweddar.

Wrth ddadansoddi sut mae ffilm Soto yn arddangos syniadau’n ymwneud ag ysbrydoleg yn sinematograffig, bydd y papur yn dangos bod Soto yn defnyddio dulliau o rithioldeb, nid er mwyn atgyfnerthu disgyrsiau dominyddol cof hanesyddol, neu weithio trwy orffennol treisgar. Yn hytrach, mae’n dadlau bod Soto’n creu deialog â gwaith ysgolheigaidd diweddar ar rithioldeb sy’n pwysleisio potensial rhyddfreinio’r ysbryd fel modd o gael trafodaethau beirniadol ynghylch disgyrsiau swyddogol ‘ôl-wrthdaro’ a syniadau teleolegol ynghylch ‘pontio’ yng Ngholombia.

Bywgraffiad
Mae Cherilyn Elston yn Ddarlithydd ym maes Astudiaethau Diwylliannol America Ladin ym Mhrifysgol Reading. Mae hi'n ymchwilio i hanes, llenyddiaeth a diwylliant Colombia, gan ganolbwyntio'n benodol ar ysgrifennu menywod, y mudiad ffeministaidd a'r gwrthdaro arfog. Enillodd ei monograff cyntaf, Women's Writing in Colombia: An Alternative History (Palgrave Macmillan, 2016), Wobr Montserrat Ordóñez 2018 y Gymdeithas Astudiaethau America Ladin. Ochr yn ochr â’i hymchwil academaidd mae hi hefyd yn gyfieithydd llenyddiaeth, cyhoeddedig. Yn y gorffennol mae hi wedi gweithio ym meysydd eiriolaeth dros undebau llafur a hawliau dynol ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect sy’n archwilio gwleidyddiaeth ddiwylliannol y cof, hawliau dynol a chyfiawnder trosiannol yng nghyd-destun prosesau heddwch diweddar yng Ngholombia. Roedd hi’n aelod o Ganolfan y DU ac Iwerddon, a gefnogodd waith Comisiwn Gwirionedd Colombia yn y DU ac Iwerddon.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 12 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn