Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Darlithoedd Siapan Prifysgol Caerdydd: Hanes tirlunio a’r heriau ynghlwm wrth Gynaliadwyedd Amgylcheddol mewn Ardaloedd Gwarchodedig yn Siapan: Deall gwersi Alpau Gogledd Siapan, Penrhyn Shiretoko a Mynyddoedd Shirakami

Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 2022
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of Dr Abhik Chakraborty hiking

Darlith gyhoeddus yng nghwmni Dr Abhik Chakraborty (Prifysgol Wakayama), yn rhan o Gyfres Darlithoedd Caerdydd-Japaneaidd sy'n archwilio agweddau cymdeithaseg ar ddysgu ieithoedd Japaneaidd. Mae recordiadau o'r Gyfres Ddarlithoedd Caerdydd-Japaneaidd ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube.

Amy gyfres
Mae myfyrwyr Japaneeg fel Iaith Dramor yn cael llai o gyfleoedd i ddod i ddeall gwybodaeth gyfoes berthnasol neu ddeall cyd-destunau diwylliannol oherwydd eu bod yn astudio y tu allan i Japan. At hynny, mae cydnabod cymdeithas Japaneaidd mewn ystyr ehangach ac ystyried sut y gellir cymhwyso eu gallu ieithyddol yn y Japaneeg i'w dyfodol eu hunain yn heriau i ddysgwyr o'r fath. Mae’n hanfodol felly nid yn unig dysgu’r iaith darged ond hefyd gwybod am agweddau amlweddog y wlad. Ar ben hynny, mae angen cymorth ar athrawon sy'n ymwneud ag addysg iaith Japaneeg y tu allan i Japan o ran cael gafael ar a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n adlewyrchu llawer o'r tueddiadau a'r normau presennol yn y gymdeithas Japaneaidd gyfoes, er mwyn cyflwyno profiad dysgu mwy dilys.

Nod Cyfres Darlithoedd Ar-lein Caerdydd-Siapan yw rhoi cyfle i’r rhai sy'n astudio iaith a diwylliant Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yr amrywiol ddysgwyr, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan i archwilio a deall agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith. Ariennir y gyfres gan Sefydliad Japan yn Llundain.

Crynodeb
Mae tensiwn unigryw bob amser wedi bod ynghlwm wrth ardaloedd gwarchodedig Siapan gan eu bod wedi’u seilio ar barciau cenedlaethol yr Unol Daleithiau. Ar yr un pryd, serch hynny, mae llawer iawn o bobl yn cerdded yn yr ardaloedd hyn oherwydd trefoli dwys yn yr ardaloedd cyfagos. Yn y sgwrs hon, rwy’n gwneud casgliadau yn dilyn fy ymchwil mewn tri safle o’r fath—Alpau Gogledd Siapan (Parc Cenedlaethol Chubu Sangaku) yng nghanol Honshu, Penrhyn Shiretoko yn Hokkaido, a Mynyddoedd Shirakami (Shirakami Sanchi) yng ngogledd Honshu. Mae rhai o gopaon mwyaf poblogaidd yn yr archipelago yn ardal Alpau Gogledd Siapan; a Safleoedd Treftadaeth Naturiol y Byd UNESCO yw ardaloedd Shiretoko a Shirakami Sanchi. Mae'r ardaloedd hyn hefyd yn rhoi lloches angenrheidiol i nifer o rywogaethau sydd mewn perygl ac mae nifer o ecosystemau pwysig yno. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae'r ardaloedd hyn yn wynebu cryn nifer o heriau o ran cynaliadwyedd amgylcheddol; mae llawer o'r heriau hynny'n deillio o hanes tirlunio’r lleoedd hyn sy'n cuddio tensiynau ecolegol sy'n dyddio'n ôl i gyfnod modern cynnar Siapan. Yn ystod y cyfnod ar ôl y rhyfel, gwelwyd ôl ‘twristeiddio’ ar y lleoedd hyn—a gafodd ei hybu, yn eironig ddigon, yn sgîl breinio statws Treftadaeth y Byd ar Shiretoko a Shirakami Sanchi—hyd yn oed o ystyried nad oedd y sefyllfa ecolegol wedi gwella’n sylweddol. Ar y cyfan, nid yw’r ymdrechion parhaus i reoli'r tirweddau hyn mewn modd cynaliadwy yn mynd i'r afael â chyfanrwydd ecolegol y lleoedd hyn nac yn unioni difrod y gorffennol o ran eu helfennau bioffisegol.

Er bod fy ymchwil yn defnyddio profiadau a lleisiau lleol, rwy’n gwneud ymdrech ymwybodol i fentro y tu hwnt i baramedrau dynol er mwyn ceisio deall yr heriau ynghlwm wrth gynaliadwyedd amgylcheddol y lleoedd hyn drwy gymryd i ystyriaeth y bywyd gwyllt sy’n trigo yno yn ogystal â ffactorau eraill nad ydyn nhw’n gysylltiedig â phobl. Mae'r cynnydd yn ein dealltwriaeth sy’n deillio o hyn yn berthnasol i Siapan ond ar ben hynny mae’n berthnasol i lawer o ardaloedd eraill sy'n wynebu heriau tebyg yn yr Anthroposen. 

Nodyn bywgraffyddol
Mae Dr Abhik Chakraborty yn gweithio i Gyfadran Twristiaeth Prifysgol Wakayama yn Siapan. Ef oedd prif olygydd ac awdur 'Natural Heritage of Japan' gwasg Springer, sef y monograff golygedig cyntaf yn Saesneg ar ddaeareg, geomorffoleg ac agweddau ecolegol ar Ynysoedd Siapan. Ar ben hyn, golygodd gyfrol 'Rivers & Society' Routledge. Mae'n ymchwilio i ffyrdd critigol o greu newidiadau mewn amgylcheddau mynyddig, rhyngweithio geo-ecolegol mewn ucheldiroedd, newid anthropogenig mewn ardaloedd gwarchodedig (PA), safleoedd Treftadaeth Naturiol UNESCO a gwahanfeydd dŵr yn yr ucheldir i ddeall sut mae pobl yn effeithio ar brosesau arwyneb y ddaear yn yr Anthroposen.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 30 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn