Dwyieithrwydd Plant: beth ydyn ni'n ei wybod? Sut mae cael rhagor o wybodaeth?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Beth sy’n cael ei gynnig?
Sgwrs ryngweithiol a gweithgareddau gan y Labordy Dwyieithrwydd Plant: bydd y sawl sy’n mynychu yn cael clywed am ein hymchwil diweddaraf mewn sgwrs dwyieithog, ac yn cael cyfle i roi cynnig ar dasgau a gemau.
Am beth mae'r digwyddiad?
Oeddech chi'n gwybod bod dysgu dwy iaith yn gallu gwella sgiliau gwybyddol plant? Neu fod plant ag anableddau datblygiadol yn gallu dysgu Cymraeg a Saesneg heb anawsterau iaith ychwanegol? Mae’r Labordy Dwyieithrwydd Plant yn ymchwilio i sgiliau iaith a sgiliau meddwl plant dwyieithog, gan ganolbwyntio ar ddwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg.
Trwy fynychu'r digwyddiad hwn, bydd y sawl sy’n mynychu’n cael profiad ymarferol o ddefnyddio offerynnau a gwneud gweithgareddau arbenigol. Byddant hefyd yn dysgu am sut mae sgiliau iaith a sgiliau meddwl yn datblygu mewn plant sy'n dod i gysylltiad â dwy iaith, gan gynnwys plant ag anableddau datblygiadol megis syndrom Rett a syndrom Down.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal gan y Labordy Dwyieithrwydd Plant: Dr Eirini Sanoudaki, Dr Athanasia Papastergiou (Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor), Dr Rebecca Ward (Ysgol Seicoleg, Prifysgol Abertawe) a myfyrwyr Doethurol Prifysgol Bangor Bethan Collins, Rebecca Day a Felicity Parry.
I bwy mae'r digwyddiad?
Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at oedolion a phobl ifanc, ond mae croeso i blant a theuluoedd fynychu.
O ddiddordeb i
Bydd y digwyddiad o ddiddordeb arbennig i rieni, athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant. Mae croeso hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygiad iaith ac ieithoedd. Bydd yn arbennig o berthnasol i gynulleidfaoedd Cymraeg.
Pafiliwn Grange
Grange Gardens
Caerdydd
CF11 7LJ