Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Darlithoedd Japaneaidd-Caerdydd: Bod yn Gyfieithydd Proffesiynol (EN-JP, JP-EN)

Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2022
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gyhoeddus ar-lein gyda Dr Nozomi Abe (Darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol SOAS Llundain, Cyfieithydd, Dramodydd a Gwneuthurwr Theatr) yn rhan o Gyfres Darlithoedd Caerdydd-Japaneaidd sy'n archwilio agweddau cymdeithaseg ar ddysgu ieithoedd Japaneaidd. A ariennir gan Sefydliad Japan, Llundain. Mae recordiadau o'r Gyfres Ddarlithoedd Caerdydd-Japaneaidd ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube.

Amy gyfres Mae myfyrwyr Japaneeg fel Iaith Dramor yn cael llai o gyfleoedd i ddod i ddeall gwybodaeth gyfoes berthnasol neu ddeall cyd-destunau diwylliannol oherwydd eu bod yn astudio y tu allan i Japan. At hynny, mae cydnabod cymdeithas Japaneaidd mewn ystyr ehangach ac ystyried sut y gellir cymhwyso eu gallu ieithyddol yn y Japaneeg i'w dyfodol eu hunain yn heriau i ddysgwyr o'r fath. Mae’n hanfodol felly nid yn unig dysgu’r iaith darged ond hefyd gwybod am agweddau amlweddog y wlad. Ar ben hynny, mae angen cymorth ar athrawon sy'n ymwneud ag addysg iaith Japaneeg y tu allan i Japan o ran cael gafael ar a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n adlewyrchu llawer o'r tueddiadau a'r normau presennol yn y gymdeithas Japaneaidd gyfoes, er mwyn cyflwyno profiad dysgu mwy dilys.

Nod Cyfres Darlithoedd Ar-lein Caerdydd-Siapan yw rhoi cyfle i’r rhai sy'n astudio iaith a diwylliant Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yr amrywiol ddysgwyr, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan i archwilio a deall agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith. Ariennir y gyfres gan Sefydliad Japan yn Llundain.

Crynodeb
Un o'r nodau terfynol i ddysgwyr iaith o bosibl yw dod yn gyfieithydd proffesiynol ond eto nid yw'r broses o sut i ddod yn gyfieithydd a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn y broses o gyfieithu yn cael eu trafod yn aml. Yn y ddarlith hon, hoffwn rannu fy mhrofiadau o fod yn gyfieithydd proffesiynol a beth mae'r swydd yn ei gynnwys.

Bywgraffiad
Astudiodd Dr Nozomi Abe Ysgrifennu Creadigol o dan yr Athro Jo Clifford yng Nghaeredin a chwblhaodd ei MSc mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Caeredin a'i PhD mewn Cyfieithu Llenyddol ym Mhrifysgol East Anglia. Mae ei gwaith yn Japaneeg a Saesneg yn amrywiol iawn. Mae ei gwaith cyfieithu i Japaneg, a'r cyfan wedi'i berfformio yn Tokyo, yn cynnwys Mary Stuart, The Orphan Muses, As You Desire Me, Great Expectations, Anna Karenina, La Strada a The Bodyguard the Musical. Mae hi hefyd yn cyfieithu i'r Saesneg ac mae ei gweithiau yn cynnwys Lautrec the Musical, Sempo the Musical, Tenshu-Tale, Forbidden, On Air, The Sun a The Obelisk of the Beast.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 26 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn