Ewch i’r prif gynnwys

Heddwch a Democratiaeth mewn Argyfwng: Deialogau Ewropeaidd Václav Havel

Dydd Mercher, 19 October 2022
Calendar 14:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Galwodd Václav Havel am 'fyw mewn gwirionedd' a 'chwyldro dirfodol' fel ymateb i argyfwng ein gwareiddiad. Rhyfel Wcráin fu'r dystiolaeth ddiweddaraf o'r argyfwng hwn.

Mae'r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng amgylcheddol cynyddol sy'n ein hwynebu yn dystiolaeth bellach gan godi cwestiynau brys ynghylch datblygu cynaliadwy, cyfiawnder amgylcheddol, hawliau ac anghydraddoldebau, yn ogystal â galwadau am gamau gwleidyddol byd-eang i fynd i'r afael â risgiau difrifol.

Mae Canolfan y Gyfraith a Chymdeithas, ynghyd â'r Ganolfan Tsiec yn Llundain ac UCL, wedi trefnu dwy drafodaeth banel sy’n canolbwyntio ar faterion heddwch, democratiaeth, cyfiawnder amgylcheddol ac argyfwng ein gwareiddiad.

Mae’r panelwyr yn cynnwys Lenka Buštíková (Prifysgol Rhydychen), Rob Cameron (gohebydd y BBC), Duncan Kelly (Prifysgol Caergrawnt), Tetyana Pavlush (Prifysgol Caerdydd), Shalini Randeria (Prifysgol Canol Ewrop), Owen Sheers (nofelydd o Gymru, Prifysgol Abertawe), Marci Shore (Prifysgol Yale), Sam Varvastian (Prifysgol Caerdydd), Michael Žantovský (Knihovna Václava Havla).

Y Deml Heddwch
Y Deml Heddwch
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3AP

Rhannwch y digwyddiad hwn