Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth a'r Undebau Llafur: Pam mae gweithwyr yn cael eu diystyru yn y newyddion?

Dydd Llun, 14 Tachwedd 2022
Calendar 18:00-19:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A collage of recent newspaper headlines about strike action in the UK in 2022

Gyda streic yn cynyddu yn erbyn cefndir o gyfyngiadau gwleidyddol pellach ar weithgarwch undebau llafur, mae diffyg adroddiadau newyddion manwl am anghydfodau cyflog a materion cyflogaeth. Bydd Nicholas Jones, cyn-ohebydd diwydiannol a gwleidyddol y BBC ac Athro Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd, yn archwilio'r rhesymau dros dranc adrodd diwydiannol – a fu ar un adeg yn elfen gref o newyddion cenedlaethol a lleol y DU – a pham mae’n credu bod y cyhoedd ar eu colled gan y newyddion sydd ohoni heddiw.

Yn ei lyfr - The Lost Tribe: Whatever Happened to Fleet Street’s Industrial Correspondents - mae Jones yn olrhain sut mae byd gwaith wedi dod yn barth i ohebwyr busnes, defnyddwyr, a gwleidyddol, sydd yn aml heb wybodaeth ddigonol am faterion cyflogaeth ac undebau llafur. Yma mae'n pwyso ar ei brofiad hir fel newyddiadurwr o’r lefel uchaf ac arbenigwr ar sbin gwleidyddol, ochr yn ochr â'i archif bersonol eang o newyddion, i gynnig ei ddadansoddiad o'r presennol.

Pam mae’r cyhoedd ym Mhrydain mor anwybodus am anghydfodau llafur? Pam mae’r wasg ddominyddol sydd o blaid y Ceidwadwyr yn ymddiddori fwy mewn lladd ar arweinwyr undebau llafur nag wrth egluro'r rhesymau dros gwynion gweithwyr? A fydd tabloidau'r Torïaid yn cefnogi'r Prif Weinidog Liz Truss yn ei gwasgfa ar "farwniaid undebau milwriaethus" mewn modd mor slafaidd ag y gwnaethon nhw gefnogi Margaret Thatcher yn y 1980au?

Ystafell 0.06
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
Dau Sgwâr Canolog
Caerdydd
CF10 1FS

Rhannwch y digwyddiad hwn