Ewch i’r prif gynnwys

ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithas, Deall Lleoedd Cymru: cyflwyniad ymarferol i wefan ryngweithiol gyda data am eich ardal leol

Dydd Llun, 7 Tachwedd 2022
Calendar 14:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Photo of terraced three story stone houses next to a screen shot of a webpage. The webpage title is Welcome to understanding Welsh places

Beth sy’n cael ei gynnig?

Bydd y digwyddiad yn gyflwyniad i wefan Deall Lleoedd Cymru. Bydd cyflwyniad byr ac yna gweithdy rhyngweithiol, ymarferol lle gall y rhai sy’n bresennol ddysgu sut i ddefnyddio'r wefan. Dangosir i chi sut y gallwch ddefnyddio data am eich ardal leol (Caerdydd a de Cymru / Bangor a gogledd Cymru) i’ch helpu i ddeall ble rydych yn byw a sut mae’n debyg neu’n wahanol i leoedd cyfagos. Gallai archwilio’r pethau sy’n debyg a’r cyferbyniadau rhyngddynt roi syniadau i chi ar gyfer eich lle, neu gallwch rannu enghreifftiau o’ch arfer gorau gydag eraill.

Am beth mae’r digwyddiad?

Ar wefan Deall Lleoedd Cymru, cewch ddata a gwybodaeth ddaearyddol ddefnyddiol am eich tref neu ardal leol, i’ch helpu chi i ddod o hyd i gyfleoedd i’ch cymuned. Mae’n cynnwys gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu fwy o bobl yn byw yno. Os ydych chi’n byw mewn tref neu gymuned sydd â llai na 2,000 o bobl, byddwch yn sylwi bod llai o ddata ar gael nag ar gyfer lleoedd mwy. Ceir data ar gyfansoddiad demograffig, cymdeithasol ac economaidd ardaloedd, argaeledd gwasanaethau ac asedau cymunedol gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, a data ar sut mae pobl yn symud rhwng lleoedd fel patrymau cymudo a mudo. Bydd y graffeg, y mapiau a’r canllawiau yn eich helpu i archwilio’r data sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth yn y man lle rydych chi’n byw neu’n gweithio.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

Scott Orford, Athro mewn Dadansoddi Gofodol a GIS ym Mhrifysgol Caerdydd 

Sam Jones, Swyddog Data Ymchwil WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd

O ddiddordeb i:

Er y gall unrhyw un fynd i’r digwyddiad, hoffem yn arbennig ddenu aelodau o gynghorau tref a chymuned, cymdeithas sifil a grwpiau trydydd sector a fyddai’n elwa o weithio gyda data cymharol ar eu hardaloedd lleol.


Digwyddiadau yn y gyfres hon

ESRC Festival of Social Science