Ewch i’r prif gynnwys

Felabration Caerdydd 2022

Dydd Gwener, 14 October 2022
Calendar 19:30-22:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Felebration 2022

Dele Sosimi ac aelodau o’i Gerddorfa Afrobeat sy’n perfformio ac yn dathlu rhywfaint o lyfr caneuon sylweddol Fela Kuti, yng nghwmni myfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.

Yn rhan o Felabration Caerdydd 2022 bydd Dele Sosimi ac aelodau o’i Gerddorfa Afrobeat yn dod i Chapter i berfformio rhywfaint o lyfr caneuon sylweddol Fela Kuti. Yn ymuno â nhw bydd myfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, yn dilyn gweithdy dan arweiniad Dele.

Gŵyl fyd-eang yw Felabration sy’n dathlu bywyd eicon cerddorol mwyaf blaenllaw Nigeria, Fela Anikulapo-Kuti, yn ystod mis ei eni. Roedd Dele Sosimi yn y Gysegrfa gyda Fela, ac mae’n parhau i fod yn addysgwr/llysgennad blaenllaw ar gyfer genre Afrobeat yng ngwledydd Prydain.

Mae cerddoriaeth yn rhywbeth ysbrydol. Dydych chi ddim yn chwarae cerddoriaeth. Os ydych chi’n chwarae gyda cherddoriaeth, byddwch chi’n marw’n ifanc. Pan fydd y grymoedd uwch yn rhoi dawn gerddorol i chi, mae’n rhaid ei defnyddio’n dda er lles dynoliaeth’. Fela Kuti 1938 – 1997

Seligman Theatre
Chapter
Heol y Farchnad
Caerdydd
CF5 1QE

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

School of Music concert series