Ewch i’r prif gynnwys

Pŵer a Dyfodol Uwchgyfrifiadura yng Nghymru

Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2022
Calendar 09:30-16:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Event takes place 5 July 2022 in Cardiff

O fodelu lledaeniad COVID-19 i fapio a monitro gorchudd tir ledled Cymru gan ddefnyddio delweddau lloeren, mae Uwchgyfrifiadura Cymru wrth wraidd ymchwil ac arloesi uwch yng Nghymru ers 2016. Yn wir, gyda data ar raddfa fawr bellach yn doreithiog, ac angen ei brosesu, ei ddadansoddi a'i ddeall, mae gan HPC a pheirianneg meddalwedd swyddogaeth alluogi hanfodol yn y dirwedd ymchwil ac arloesi yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Y siaradwyr gwadd yw Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething AS, a'r Athro Mark Wilkinson, Cyfarwyddwr Cyfleuster HPC DiRAC. Rhagwelir y bydd y mynychwyr yn cynnwys adrannau'r llywodraeth, cyllidwyr ymchwilwyr, ac ymchwilwyr y mae eu gwaith yn elwa o HPC a pheirianneg meddalwedd ymchwil. 

Mae'r diwrnod yn rhad ac am ddim. Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd yn cael ei ffrydio'n fyw ar-lein i alluogi cyfranogiad ehangach

Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn gonsortiwm o brifysgolion — Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth — sy'n cydweithio i gynnig gwasanaethau cyfrifiadura a pheirianneg meddalwedd ymchwil perfformiad uchel i alluogi gwyddoniaeth ac arloesedd rhagorol yng Nghymru. Mae’n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Gweld Pŵer a Dyfodol Uwchgyfrifiadura yng Nghymru ar Google Maps
0.01
Abacws
Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG

Rhannwch y digwyddiad hwn