Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewid digidol: Mae Cyflymydd Cymru Data Nation (WDNA)

Dydd Iau, 26 Mai 2022
Calendar 13:15-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

WDNA

Yn sgîl y trawsnewid technolegol cyflym ac wrth i ddeallusrwydd artiffisial (AI) ddod yn fwy a mwy amlwg yn y gymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ogystal â chyda’r byd academaidd, i gymryd camau unedig i harneisio data a deallusrwydd. Cenhadaeth Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru (WDNA) yw helpu Cymru i ddod yn fwy gwydn a llewyrchus, gan hyrwyddo trawsnewid economaidd a chymdeithasol. Bydd yn cefnogi arloesedd mewn data ac AI, yn seiliedig ar wella sgiliau, cydweithio a màs critigol, ac yn gosod Cymru mewn sefyllfa i lwyddo yn yr hirdymor drwy gael mwy o fewnwelediad a deallusrwydd a gallu rhagweld yn well.

Ym mis Ionawr 2022, cefnogodd cynllun peilot WDNA 22 o brosiectau 'swper sbrint' sy'n rhoi gwyddonwyr data ac ymchwilwyr AI mewn cyswllt â phartneriaid mewn sefydliadau yn y diwydiant, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i harneisio'r potensial sydd gan ddata. Roedd y prosiectau byr a oedd yn rhedeg am un neu ddau fis yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau ac yn mynd i'r afael â heriau sy'n amrywio o leihau allyriadau carbon drwy wneud y defnydd gorau posibl o ynni, i roi mwy o fudd i gleifion drwy ddiagnosis dan arweiniad AI a phrognosis o SEPSIS ar ôl llawdriniaeth. Gall y DU arwain y ffordd o ran datblygiadau mewn AI a Gwyddor Data.

Bydd y digwyddiad arddangos hwn yn tynnu sylw at ganlyniadau prosiectau peilot WDNA, yn rhannu’r hyn a ddysgwyd a’r arferion gorau ac yn rhoi trosolwg o uchelgeisiau Cymru wrth symud ymlaen. Gallwch ddysgu mwy am Gyflymydd Cenedl Ddata Cymru yma.

Pwy ddylai fynd

Unrhyw un sydd â diddordeb yn yr agenda trawsnewid digidol ac sydd am ddysgu mwy am y potensial sydd gan AI a gwyddor data i newid a llunio dyfodol Cymru. Os ydych chi wedi’ch magu gyda thechnoleg o’ch cwmpas, neu'n awyddus i ddeall y cyfleoedd yn well, bydd y digwyddiad hwn yn rhannu gwybodaeth am y dirwedd bresennol, yn rhoi cipolwg ar yr arfer gorau, ac yn amlinellu ein huchelgais ar gyfer WDNA a thu hwnt yn y dyfodol.

Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys agenda lawn a’r siaradwyr, yn cael eu rhannu â'r rhai sydd wedi cofrestru yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae'r Cyflymydd Cenedl Ddata yn fenter ar gyfer Cymru gyfan. Ei nod yw cyflymu’r broses o ddysgu, rhagweld a deall gwybodaeth gan asedau data amrywiol er mwyn cael effaith ar gymdeithas, iechyd a’r economi. Drwy gyd-greu ar draws busnesau a phartïon eraill, nod Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru yw ysgogi arloesedd o ran data a deallusrwydd artiffisial er mwyn creu datrysiadau, cynnyrch a rhaglenni newydd mewn clystyrau diwydiannol a gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae hefyd am geisio cyfoethogi’r gronfa dalent o sgiliau yng Nghymru ym meysydd gwyddorau data a deallusrwydd artiffisial. Mae'r rhaglen, sy'n cael ei rhedeg gan Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor, wedi’i datblygu ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, y diwydiant, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Wrth gofrestru, nodwch y bydd eich data’n cael ei gadw’n unol â’n Hysbysiad Diogelu Data, sydd ar gael yma.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg. Mae croeso i chi gyflwyno cwestiynau yn Gymraeg ymlaen llaw i’w gofyn yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, ebostiwch CluettK@caerdydd.ac.uk cyn Dydd Iau 12 Mai 2022 i ofyn am wasanaeth cyfieithu ar y pryd. Er mwyn i’r gwasanaeth hwn gael ei ddarparu, bydd angen i 10% neu fwy o’r rhai sydd am ddod i’r digwyddiad ofyn amdano. Hefyd, bydd angen i’r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaeth fod ar gael ar y diwrnod.

Hygyrchedd

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd drwy ebostio CluettK@caerdydd.ac.uk erbyn Dydd Iau 12 Mai 2022.

Cofrestru

Ymddiheurwn nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus, nid yw hynny’n bosibl ar y platfform rydym yn ei ddefnyddio.

Gweld Trawsnewid digidol: Mae Cyflymydd Cymru Data Nation (WDNA) ar Google Maps
Llawr 4
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB

Rhannwch y digwyddiad hwn