Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Sarah Dickins, Gohebydd Economeg BBC Cymru Wales, a'r Athro Huw Dixon, Pennaeth Economeg ac Arweinydd Ymchwil

Dydd Mawrth, 10 Mai 2022
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Piggy bank being carried away by a balloon

Chwyddiant a’r Argyfwng Costau Byw: Sut cyrhaeddon ni fan hyn, a ble rydyn ni’n mynd?

Ymunwch â Sarah Dickins, Gohebydd Economaidd BBC Cymru Wales a’r Athro Huw Dixon, Pennaeth Economeg Ysgol Busnes Caerdydd ac arweinydd ymchwil ar gyfer mesur economaidd yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasoli archwilio’r hyn sy’n achosi problemau mawr i nifer.

Beth yw’r achosion y tu ôl i’r cynnydd cyflym mewn chwyddiant a chostau byw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac a welsom ni hynny’n dod? Beth yw’r rhagolygon ar gyfer chwyddiant dros y misoedd nesaf, a sut bydd pethau’n cael eu heffeithio gan y rhyfel yn Wcrain? Mae’r rhain yn gwestiynau sydd wedi dod yn rai brys ym meddyliau gwleidyddion, pobl fusnes a chartrefi sy’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol. Bydd Sarah Dickins a’r Athro Huw Dixon yn rhoi trosolwg o sut a daethom ni yma, a sut mae’r cynnydd mewn costau byw yn debygol o effeithio arnom wrth symud i’r dyfodol. Bydd Huw hefyd yn ystyried yr hyn y gallai’r Llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan ei wneud i liniaru’r problemau brys sy’n wynebu teuluoedd a busnesau.

Yn amodol ar unrhyw newidiadau i lefelau cyfyngiadau, rydym yn gyffrous i fod yn rhedeg ein Sesiwn Hysbysu dros Frecwast hybrid cyntaf. Pan fyddwch yn cofrestru eich lle bydd gennych yr opsiwn i ddewis ymuno â ni naill ai'n bersonol (yn yr Ystafell Addysg Weithredol, Ysgol Busnes) neu ar-lein trwy Zoom.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education