Ewch i’r prif gynnwys

Rhagolwg Gwyddoniaeth a Thechnoleg IBM

Dydd Mercher, 30 Mawrth 2022
Calendar 12:15-13:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Ers ei sefydlu, mae International Business Machines Corporation (IBM) wedi bod ar flaen y gad o ran hyrwyddo technolegau newydd sydd wedi dod yn gyfystyr â chymdeithas fodern. Mae eu rhaglenni ymchwil hefyd wedi arwain at gerrig milltir allweddol yn hanes Deallusrwydd Artiffisial (AI), megis Deep Blue a Watson .

Yn seminar amser cinio nesaf y Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch (CSRI), bydd Cyfarwyddwr Ymchwil IBM y DU, Dr Peter Waggett, yn amlinellu'r brys ar gyfer gwyddoniaeth a'r potensial i atgyfnerthu’r dull gwyddonol gydag AI a Chyfrifiadura Cwantwm.

Bydd Dr Waggett yn dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn rhai astudiaethau achos a bydd yn tynnu sylw at lwybrau allweddol ar gyfer IBM a'r gymuned TG ehangach.

“Mae darganfyddiad gwyddonol yn cael ei yrru gan ddau rym: datblygiad galluoedd newydd, a dycnwch di-baid meddyliau craffaf y byd.”- IBM

Bywgraffiad y siaradwr
Dr Peter Waggett yw Cyfarwyddwr Ymchwil IBM UK. Mae'n arwain timau ymchwil yn Labordai Hursley a Daresbury. Mae'r timau hyn yn cynnal gweithgareddau ymchwil sylfaenol ac yn cyflwyno systemau prawf cysyniad cyntaf o’i fath ar gyfer ystod eang o sefydliadau masnachol a’r sector cyhoeddus. Mae gan Dr Waggett ddiddordebau ymchwil penodol mewn deallusrwydd artiffisial, cyfrifiadura cwantwm a phrosesu delweddau. Mae’n aelod o Fwrdd Cynghori Rhaglen Economi Ddigidol EPSRC a Grŵp Moeseg Biometrig a Fforensig y Swyddfa Gartref.

Gweld Rhagolwg Gwyddoniaeth a Thechnoleg IBM ar Google Maps
Lecture Theatre 2.26
Abacws
Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG

Rhannwch y digwyddiad hwn