Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Darllen Astudiaethau Cyfieithu: “Zombie history: The undead in translation” gan Gudrun Rath

Dydd Mercher, 16 Mawrth 2022
Calendar 13:00-14:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Downwards view of book with open pages

Yn ei sesiwn gyntaf eleni, bydd Grŵp Darllen Astudiaethau Cyfieithu’n trafod testun Gudrun Rath, “Zombie history: The undead in translation”, o’r llyfr “The Dark Side of Translation” gan Federico Italiano (2020).

Yng nghyd-destun coloneiddio'r Caribî, mae’r sombi – ffigur ar groesffordd bywyd a marwolaeth – wedi’i gyflwyno ar ffurfiau gwahanol. Mae gwahanol ystyron wedi'i roi iddo, ac mae hefyd wedi'i addasu at wahanol ddibenion. Mae’r papur yn canolbwyntio ar swyddogaethau lluosog testunau hanesyddol sy’n ymwneud â sombïaid o’r 17eg ganrif ymlaen, fel y’u gwelwyd mewn gwyddoniaduron, gweithiau anthropolegol a gweithiau ffuglennol. Mae'n dilyn sut y cafodd y sombi ei ddefnyddio mewn disgwrs ysgolheigaidd a gyhoeddwyd yn Ffrainc ac yn Louisiana yn y 18fed a’r 19eg ganrif a sut y gwnaeth y testunau hyn briodoli amrywiaeth o ystyron i’r sombi. Mae'r papur yn trafod rhai o oblygiadau damcaniaeth gwenwyno Wade Davis ac yn archwilio’r defnydd o’r sombi fel testun disgwrs ysgolheigaidd yn y 20fed ganrif. Yn y pen draw, mae'r papur yn dadlau bod agweddau ar destunau hanesyddol sy’n ymwneud â sombïaid yn parhau i gael eu cynrychioli ar ffurf ffilm, ac mae’n dod i ben drwy ystyried y ffaith bod nifer o ddehongliadau o’r sombi.

Anogir cyfranogwyr i feddwl am enghreifftiau o briodoldeb diwylliannol trwy gyfieithu, yn enwedig gan gyfeirio at ddamcaniaethau canibaliaeth a chyfieithu gan Haroldo de Campos.

Testun mynediad agored yw hwn.

Fformat y digwyddiad
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel cyfarfod Zoom ac ni fydd yn cael ei gofnodi.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 4 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn