Ewch i’r prif gynnwys

Mae'n hen bryd: Sut y gall newidiadau cynnar yn y synaps effeithio ar glefyd Parkinson, Dr Dayne Beccano-Kelly, Prifysgol Caerdydd

Dydd Iau, 17 Chwefror 2022
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Science in Health Public Lecture Series

Clefyd Parkinson yw'r cyflwr niwroddirywiol mwyaf cyffredin ond un yn y byd, a dyma’r pandemig sy’n tyfu gyflymaf o ran clefyd nad yw’n heintus.  Ar hyn o bryd, nid oes ffordd o wella clefyd Parkinson, sy’n golygu bod gwir angen triniaethau newydd ac effeithiol ar ei gyfer.

Mae clefyd Parkinson yn aml yn cael ei ystyried yn glefyd ymhlith pobl hŷn, ond mae tystiolaeth yn awgrymu bod marwolaeth niwronau, yr hyn sy’n achosi’r clefyd, yn dechrau ymhell cyn hyn.  Felly, er mwyn gallu datblygu triniaethau effeithiol, mae angen i ni ddeall nid yn unig beth sy’n mynd o’i le, ond pryd!

Yn rhan o’i ymchwil, mae Dr Beccano-Kelly yn astudio sut mae celloedd yr ymennydd yn newid, gan ddechrau yn y cyfnodau cynharaf a mapio newid dros amser. Mae'n canolbwyntio ar waith allweddol yr ymennydd – defnyddio’i gelloedd i gyfathrebu drwy anfon signalau cemegol-drydanol. Mae hyn yn ein galluogi i wneud pethau arbennig fel cerdded, siarad a meddwl, ond gall hefyd ysgogi’r clefyd!

Rhannwch y digwyddiad hwn