Ewch i’r prif gynnwys

Dathliad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd

Dydd Sadwrn, 5 Chwefror 2022
Calendar 11:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of a tiger to mark the Year of the Tiger.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd i ddod â diwrnod llawn gweithgareddau a hwyl i chi ddathlu gŵyl ddiwylliannol bwysicaf Tsieina.

Sesiwn Blas ar yr Iaith Tsieinëeg am 11am - 11.45am neu 2pm - 2.45pm

Ydych chi erioed wedi eisiau dysgu Tsieinëeg ond heb fod yn ddigon dewr i ymuno â chwrs iaith? Ymunwch ag un o'n tiwtoriaid iaith profiadol fydd yn cyflwyno rhai o'r nodau Tsieinëeg mwyaf cyffredin i chi yn ogystal â rhai ymadroddion defnyddiol!

Sesiwn Caligraffeg Tsieinëeg am 12pm - 12.45pm neu 3pm - 3.45pm

Ydych chi erioed wedi rhoi cynnig ar Caligraffi Tsieineaidd? Bydd pwnc y gweithdy hwn yn ymwneud â'r cymeriad arbennig Fú 福. Bob Gŵyl y Gwanwyn, bydd teuluoedd Tsieineaidd yn hongian y cymeriad Fú ar ddrysau neu ffenestri, sy'n cynrychioli eu dymuniadau am lwc dda yn y flwyddyn i ddod.

Byddwn yn dechrau drwy roi cyflwyniad i chi i'r cymeriad hwn a'i draddodiadau cysylltiedig, yna byddwn yn eich dysgu sut i ysgrifennu'r cymeriad hwn gam wrth gam yn y Sgript Reolaidd 楷书. Edrychwn ymlaen at ddathlu'r ŵyl Tsieineaidd bwysicaf hon gyda chi i gyd.

Paentio Tsieineaidd a thorri papur am 1pm - 1.45pm neu 4pm - 4.45pm

Dysgwch ychydig am dechnegau Peintio Tsieineaidd traddodiadol wrth i ni eich dysgu sut i ffurfio rhai siapiau sylfaenol a llunio paentiad Blodau Eirin. Os oes gennych frwsys paent, papur ac inc caligraffeg neu ddyfrlliwiau, yna mae croeso i chi ymuno o’ch cartref! Yn ail hanner y gweithdy byddwn yn eich cyflwyno i dorri papur Tsieineaidd ac argymhellir siswrn, papur a phinnau i ymuno â'r gweithgaredd hwn.

Gallwch gadw lle ar gyfer un digwyddiad neu'r tri ohonynt drwy ddewis y tocyn perthnasol o'r ddewislen.

Bydd pob digwyddiad yn cael ei ffrydio'n fyw ar Zoom a byddwn yn anfon y dolenni a'r manylion mewngofnodi atoch pan fyddwch yn cofrestru.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Chinese new year