Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Darllen Astudiaethau Cyfieithu: Cyfieithu Gweithredol gyda Michela Baldo

Dydd Mercher, 15 Rhagfyr 2021
Calendar 15:00-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Digwyddiad grŵp darllen a drefnir gan y tîm Astudiaethau Cyfieithu yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Testun y drafodaeth fydd erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Michela Baldo, Darlithydd Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Birmingham, ac sydd wedi cytuno i ymuno â’r cyfarfod ac ateb cwestiynau. Trefnir y digwyddiad hwn gan Angela Tarantini a Joanna Chojnicka, Cymrodyr Ymchwil Marie Curie, sydd wedi ymuno â'r Ysgol yn ddiweddar.

Mae erthygl Michela Baldo o'r enw “Translating Spanish Transfeminist Activism into Italian. Performativity, DIY, and Affective Contaminations” yn trin a thrafod cyfieithiadau i’r Eidaleg gan grŵp o gyfieithwyr trawsffeminaidd Eidalaidd o bedwar testun Sbaeneg trawsffeministaidd yn y cyfnod ôl-bornograffig. Mae’r cyfieithiadau hyn a gyflwynwyd rhwng 2014 a 2017 wedi hybu’r drafodaeth yn yr Eidal ar ôl-bornograffi a materion megis barnu merched am ymddygiad rhywiol, hawliau puteindra, a thrais gan ddynion yn erbyn menywod. Perfformiadwyedd, cyfieithu DIY, a halogiad yw’r cysyniadau o dan sylw yn yr erthygl hon.

Er ei bod yn canolbwyntio ar astudiaeth achos benodol, mae'r erthygl yn cyfrannu at y drafodaeth ehangach ar weithredaeth wrth gyfieithu. Felly, mae'n berthnasol nid yn unig i'n prosiectau ymchwil penodol, ond o bosibl i unrhyw un sy'n gweithio ym maes Astudiaethau Cyfieithu.

Cyfeirnod llyfryddol yr erthygl: Baldo, M. 2019. “Translating Spanish Transfeminist Activism into Italian. Performativity, DIY, and Affective Contaminations.” rhywedd/rhywioldeb/yr eidal, 6, 66-84, t. 74. Mae'r erthygl ar gael drwy Fynediad Agored.

Trefn y Digwyddiad
NEWID MEWN TREFN: Ni fydd y digwyddiad yn cael ei chynnal mwyach mewn trefn cyfunol. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn gwbl gyfan ar-lein felly nid oes opsiwn i fynychu'n mewn person mwyach. Bydd pob unigolyn cofrestredig yn derbyn y ddolen i ymuno â'r digwyddiad yn agosach at yr amser. Ni fydd y digwyddiad yn cael ei recordio.

Cofrestru
Rhaid i chi gofrestru i fynd i’r digwyddiad hwn drwy'r botwm 'Cadw lleoedd' ar ochr chwith y dudalen hon, a nodi a hoffech ymuno ar-lein neu wyneb yn wyneb er mwyn i ni fedru monitro rhifau. Dim ond hyn a hyn o docynnau sydd ar gael i ymuno wyneb yn wyneb oherwydd mesurau diogelwch COVID, felly peidiwch â dod ar y diwrnod oni bai eich bod wedi cofrestru.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 8 Rhagfyr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn