Ewch i’r prif gynnwys

Screening the Child: Clwb Ffilm Sbaeneg

Calendar Dydd Llun 1 Chwefror 2021, 01:00-Dydd Gwener 12 Mawrth 2021, 01:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Screening the Child: Spanish Film Club

Cyfres o arddangosiadau ffilm a sgyrsiau rhithwir yw Screening the Child ar thema'r plentyn mewn ffilmiau Ibero-americanaidd.

Mewn partneriaeth â Chlwb Ffilm Sbaeneg Pragda ac adrannau Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg, mae’n bleser gennym rannu'r gyfres hon o arddangosiadau ffilm a thrafodaethau gyda chi, o'r enw 'Screening the Child: the Child's Gaze in Spanish Language Cinema.'

Wedi'i guradu gan Rachel Beaney, myfyriwr PhD mewn Astudiaethau Sbaenaidd, mae'r ŵyl hon yn dwyn ynghyd pum ffilm sy'n cynnwys plant fel y prif gymeriad. Yn y ffilmiau a gyflwynir, mae cymeriad y plentyn yn cael profiad o newid gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae crewyr y ffilmiau'n dod â phersbectif cymeriad y plentyn i'r amlwg er mwyn cyflwyno ac ail-lunio digwyddiadau hanesyddol, deinameg teuluoedd a thrawsnewidiadau cymdeithasol.

Bydd pob ffilm ar gael i'w gwylio am wythnos, ac ategir hyn gan drafodaeth a sesiwn holi ac ateb drwy Zoom ar ambell ffilm gydag academyddion a phobl sy'n dwlu ar ffilmiau.

Hoffwn ddiolch hefyd am gefnogaeth AHRC SWW DTP.
Roedd cyfres y Clwb Ffilmiau Sbaenaidd gyda chefnogaeth Pragda, Gweinyddiaeth Addysg, Diwylliant a Chwaraeon Sbaen, a chelfyddydau a diwylliant SPAIN.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â beaneyr@caerdydd.ac.uk

Cofrestru
I gael mynediad i'r sinema rithwir, cofrestrwch trwy'r dudalen Eventbrite.

I fynychu'r sgyrsiau rhithwir, cofrestrwch trwy'r dolenni Zoom unigol isod.

RHAGLEN

Ar gael i'w sgrinio rhwng 1– 8 Chwefror:
The Country of Fear (El país del miedo) 
Francisco Espada / Sbaen / 102 mun / 2015 / Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg

Mae Carlos, Sara a'u mab ifanc Pablo, yn byw bywyd tawel dosbarth canol tan i Sara ddechrau sylwi bod pethau'n diflannu yn y tŷ. Mae'n beio'r forwyn o Moroco ac yn y pen draw yn ei diswyddo. Ond does dim pall ar y dwyn; Pablo sy'n gyfrifol. Yn bryderus, mae Carlos yn penderfynu dilyn Pablo i'r ysgol lle mae'n darganfod bod cyd-ddisgybl 13 oed, Marta, yn bwlio ac yn manteisio ar Pablo.

Ar gael i'w sgrinio rhwng 11-18 Chwefror:
Black Bread (Pa negre) 
Agustí Villaronga / Sbaen / 108 mun / 2018 / Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg

Mae Pa negre wedi'i gosod yng nghefn gwlad Catalwnia yn ystod y rhyfel ddechrau'r 1940au lle caiff dyn lleol ei gyhuddo o lofruddio ac mae ei fab yn mynd ati i ganfod y gwir. Mae Andreu, sy'n un ar ddeg oed, yn dod ar draws wagen wedi'i malu yn y prysgwydd wrth droed clogwyn uchel ac yn dyst i eiliadau olaf y dyn a'r bachgen oddi mewn. Mae'r heddlu'n amau tad Andreu o drosedd, felly mae'n mynd i guddio a chaiff Andreu ei anfon i fyw gyda pherthnasau. Yno, mae'r bachgen ofnus yn creu bywyd ffantasi, ond caiff ei orfodi i wynebu byd o dwyll oedolion, casineb sy'n cronni a chanlyniadau erchyll y rhyfel.

Dydd Llun 15fed Chwefror, 18:00 GMT:
Trafodaeth Bwrdd Crwn Gweminar Zoom: Pa negre

Ymhlith y siaradwyr mae'r Athro Erin Hogan (Prifysgol Maryland Baltimore County, UMBC), Dr Eva Bru-Domínguez (Prifysgol Bangor), Dr Fiona Noble, Ymchwilydd Diwylliant Gweledol Sbaen, Dr Ryan Prout (Prifysgol Caerdydd) a Meleri Jenkins (Prifysgol Caerdydd).
Cofrestrwch i ymuno â ni am drafodaeth ar y ffilm.

Ar gael i'w sgrinio rhwng 17 a 24 Chwefror:
Summer 1993 (Estiu 1993)Carla Simón / Sbaen / 96 mun / 2017 / Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg

Yn ystod haf 1993, ar ôl i'w rhieni farw o AIDS, mae Frida, sy'n chwech oed, yn cael ei gorfodi o brysurdeb Barcelona i gefn gwlad Catalwnia i fyw gyda'i modryb a'i hewythr, ei gwarcheidwaid cyfreithiol newydd.

Dydd Llun 22 Chwefror 16:00 GMT:
Trafodaeth Bwrdd Crwn Gweminar Zoom: Estiu 1993
Ymhlith y siaradwyr mae Dr Sarah Thomas (Prifysgol Brown), yr Athro Sally Faulkner (Prifysgol Caerwysg), Dr Stuart Davis, (Prifysgol Caergrawnt), yr Athro Sarah Wright (Royal Holloway), Raquel Martínez Martín (Prifysgol Strathclyde) a Ben Rive (Snowcat Sinema).
Cofrestrwch i ymuno â ni am drafodaeth ar y ffilm.

Ar gael i'w sgrinio rhwng 25 Chwefror - 4 Mawrth:
Bad Hair (Pelo malo)
Mariana Rondón / Venezuela / 93 mun / 2013 / Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg

Mae obsesiwn trwsiadus bachgen naw oed gyda sythu ei wallt yn arwain at don enfawr o banig homoffobig yn ei fam brysur, yn y stori dyner ond glir hon am ddod i oed.

Dydd Llun 1af Mawrth, 18:00 GMT
Trafodaeth Ford Gron Gweminar Zoom: Bad Hair (Pelo malo)
Cofrestrwch ar y ddolen isod i ymuno â ni am drafodaeth o'r ffilm. Ymhlith y siaradwyr mae'r Athro Sally Faulkner, Dr Katie Brown, Dr Natalia Pinazza, Adam Feinstein, Dr Rebecca Jarman a'r Athro Maria Delgado. Cofrestrwch i ymuno â ni am drafodaeth ar y ffilm.


Ar gael i'w sgrinio rhwng 5 a 12 Mawrth:
I, girl (Yo, niña) 
Natural Arpajou / Yr Ariannin / 85 mun / 2018 / Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg

Mae Yo, niña wedi'i seilio ar brofiadau hunangofiannol yr awdur, ac yn adrodd stori Armonía, merch fach sy'n byw gyda Pablo a Julia, ei rhieni yn ôl pob golwg, mewn tirwedd ddelfrydol o lynnoedd, afonydd a choedwigoedd yn ne'r Ariannin. Maen nhw'n neo-hipis, yn llysieuwyr, yn amlgymharus, yn cwestiynu'r system ac yn cael problemau gyda'r gyfraith.

Rhannwch y digwyddiad hwn