Lansiad Llyfr: 'The European Union and the Northern Ireland Peace Process' gan Dr Giada Lagana
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae ‘The European Union and the Northern Ireland Peace Process’ yn cynnig yr astudiaeth gynhwysfawr gyntaf o sut cyfrannodd yr UE at y brosiect heddychu yng Ngogledd Iwerddon, pwnc sydd wedi bod yn greiddiol i drafodaethau ynghylch Brexit a pherthnasoedd yn yr ynysoedd hyn yn y dyfodol. Mae’r llyfr yn dangos bod y gydberthynas rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE wedi bod yn llawer mwy arwyddocaol yn ystod y broses heddychu nag sydd wedi’i awgrymu’n flaenorol.
Ymunwch â Giada a’n siaradwyr i fyfyrio ar wersi’r llyfr a’i brif themâu.
Bydd y panel yn cynnwys:
- Yr Athro Richard Wyn Jones, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Niall O'Dochartaigh, NUI Galway
- Dr Mary C Murphy, Coleg Prifysgol Cork
- Yr Athro Daniel Wincott, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caeredin
- Mr Hugh Logue, cyn-Aelod Cynulliad SDLP, Swyddog i’r Comisiwn Ewropeaidd, ac actifydd hawliau sifil
Cynhelir y digwyddiad ysgogol a chroesawgar hwn fel Cyfarfod Zoom, ac mae ar agor i’r holl bobl sydd â diddordeb yn y pwnc.
Rhagor o wybodaeth-