Ewch i’r prif gynnwys

Pwy sy’n Poeni am y rhai sy’n Gadael Gofal - Profiadau pobl sy’n gadael gofal yn ystod Covid-19 a’r cyfnod clo.

Dydd Iau, 12 Tachwedd 2020
Calendar 12:30-13:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

who cares for those

Bydd y digwyddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth COVID-19 ddiweddar a oedd yn edrych ar brofiadau pobl ifanc a oedd yn y broses o adael gofal yng Nghymru a Lloegr yn ystod y cyfnod clo. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys cyfraniadau gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal gan Lleisiau o Ofal Cymru.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfweliadau ansoddol gyda 21 o bobl ifanc ac yn cynnwys allbynnau creadigol o gelf a cherddi. Yn ogystal, cynhaliwyd arolwg gennym o adrannau awdurdodau lleol â'u mecanweithiau cymorth.

Mae'r canfyddiadau'n dangos profiadau amrywiol i bobl ifanc; roedd rhai'n teimlo'n ynysig a heb gael digon o ofal yn ystod y cyfnod clo, gyda chefnogaeth yn lleihau ac yn annigonol. Ac eto i eraill, roedd perthnasoedd ag unigolion allweddol ac amrywiaeth o fentrau lleol wedi lleihau heriau'r pandemig.  Mae gwydnwch pobl ifanc yn werth ei nodi yn y canfyddiadau, a chynigir argymhellion i wella ymatebion cymorth pe bai cyfnod clo eto, yn ogystal â phan fydd cyfyngiadau'n cael eu codi'n llwyr.

Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno canfyddiadau'r astudiaeth hon, yn trafod yr argymhellion a godwyd o'r ymchwil a bydd yn cynnwys amser ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb ar y diwedd.

Rhannwch y digwyddiad hwn