Ewch i’r prif gynnwys

Bywydau Digidol Menywod Du ym Mhrydain: Rhwng Creadigrwydd, Cymuned a Nwyddháu

Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2020
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Digital lives of black women

Mae creadigrwydd a gwaith digidol menywod Du ar flaen y gad mewn llawer o newidiadau sylweddol o ran cynhyrchu cyfryngau, creadigol a diwylliannol ym Mhrydain, ond eto anaml y cânt gydnabyddiaeth gyhoeddus barhaus a ffynonellau sylweddol o gymorth sefydliadol hirdymor. 

Gan dynnu ar bum mlynedd o ymchwil ar gyfer ei chyfrol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, The Digital Lives of Black Women in Britain (Palgrave Macmillan, 2020), mae Dr Francesca Sobande yn datgelu sut mae sefydliadau masnachol yn cam-fanteisio ar greadigrwydd menywod Du yn aml, yn cynnwys brandiau sy'n ceisio 'amrywio' eu delwedd oherwydd ei broffidioldeb posibl. 

Mae'n dadlau er bod busnesau'n ystyried menywod Du yn 'arweinwyr' digidol yn fwy nag erioed, cânt eu diystyru a'u hamlygu ar yr un pryd fel crewyr, cynhyrchwyr gwybodaeth, ac arweinwyr mudiadau cymdeithasol. Mae Dr Sobande yn ystyried y tensiynau rhwng nodweddion cymunedol, gwrth-ddiwylliannol a masnachol diwylliant digidol, gan ganolbwyntio ar sut y caiff y materion hyn eu ffurfio drwy groestorri rhagfarn wrth-dduon, rhywiaeth a mathau eraill o ormes wedi’u cyd-weu. 

Cynhelir y sgwrs, sy'n rhan o'r gyfres Dadleuon Digid, mewn partneriaeth gyda Fforwm Menywod a Rhywedd y Gymdeithas Hyrwyddo Economeg Gymdeithasol ac mae'n rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC.

Rhannwch y digwyddiad hwn