Ewch i’r prif gynnwys

Sgwrs gyda Jenny Nelson, Jesús Sanjurjo a Charlotte Hammond: Ymchwil newydd ar y fasnach gaethweision drawsiwerydd, caethwasiaeth drefedigaethol, a'i chymynroddion

Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2020
Calendar 13:30-14:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

in conversation jenny nelson

Sgwrs rithwir gyda Dr Jenny Nelson (Prifysgol Caerdydd), Dr Jesús Sanjurjo (Prifysgol Caerdydd), Dr Charlotte Hammond (Prifysgol Caerdydd) ar thema ymchwil Hanes a Threftadaeth yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Bydd y sgwrs anffurfiol hon rhwng Jenny Nelson (Darlithydd mewn Portiwgaleg ac Astudiaethau Lusoffon), Jesús Sanjurjo (Darlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd ac America Ladin) a Charlotte Hammond (Darlithydd mewn Astudiaethau Ffrengig) yn fforwm i drafod ymchwil a chyhoeddiadau diweddar ar y fasnach gaethweision drawsiwerydd, caethwasiaeth drefedigaethol a'i chymynroddion.

Byddant yn myfyrio ar sut mae eu hymchwil wedi llywio modiwl israddedig newydd y maent yn ei ddysgu eleni sy'n mynd i'r afael â chaethwasiaeth a diddymiad o safbwynt trawswladol cymharol. Byddant hefyd yn trafod cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith rhyngwladol ar gyfer celfyddydau a threftadaeth gwrthgaethwasiaeth newydd a sefydlwyd yn yr Ysgol yn gynnar yn 2020.

Siaradwyr

Mae Dr Jenny Nelson yn Ddarlithydd mewn Portiwgaleg ac Astudiaethau Lusoffon ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n gweithio ar yr astudiaeth gymharol o gaethwasiaeth yn America Ladin a'r Caribî. Mae ei hymchwil hefyd yn cwmpasu hanesion ehangach yr Iwerydd a chyfraniad Prydain mewn gweithgareddau gwrth-gaethwasiaeth, yn bennaf ym Mrasil a Cuba.

Mae Dr Jesús Sanjurjo yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd ac America Ladin yn rhan o gynllun newydd blaenllaw Prifysgol Caerdydd, Darlithwyr Disglair. Mae'n arbenigo yn hanes caethwasiaeth a'r fasnach gaethweision yn y Caribî Sbaenaidd a chysylltiadau diplomyddol a diwylliannol Eingl-Sbaenaidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar hyn o bryd mae'n cyd-gyfarwyddo'r rhwydwaith Ymchwil 'Blood & Radical Politics' gyda'r bardd a'r artist cysyniadol RJ Arkhipov.

Mae Dr Charlotte Hammond yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffrengig ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei llyfr cyntaf Entangled Otherness: Cross-Gender Fabrications in the Francophone Caribbean, a gyhoeddwyd gyda Gwasg Prifysgol Lerpwl yn 2018, yn archwilio dynameg traws-wisgo a pherfformiad rhywedd mewn diwylliannau cyfoes Ffrengig Caribïaidd. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio ar brosiect a ariennir gan Leverhulme sy'n archwilio sut mae menywod sy’n creu dillad a thecstilau yn Haiti a'r Weriniaeth Ddominica yn gwrthsefyll strwythurau economaidd byd-eang ac amodau llafur ecsbloetiol trwy’r celfyddydau a sefydliad gymunedol.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 28 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad

Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio. Bydd y recordiad ar gael ar sianel YouTube yr Ysgol.

Rhannwch y digwyddiad hwn