Ewch i’r prif gynnwys

Bwrdd Crwn: Astudiaethau Ardal Ieithyddol a Thu Hwnt

Dydd Mercher, 14 October 2020
Calendar 13:00-14:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Global language based area studies stock image

Digwyddiad bwrdd crwn ar-lein sy'n hygyrch i'r cyhoedd, mewn deialog ag academyddion o'r Ysgol Ieithoedd Modern, sy'n cael ei gynnal gan thema ymchwil Astudiaethau Ardal Byd-eang sy'n seiliedig ar yr Iaith o dan thema ymchwil Argyfwng a Diwylliant yr Ysgol gyfan.

Siaradwyr: Yr Athro Claire Gorrara, Dr Andrew Dowling, Heiko Feldner a Dr Joey Whitfield.
Cadeirydd: Yr Athro Gordon Cumming.

Bydd y cyfarfod ffurfiol cyntaf hwn o thema ymchwil GLAS yn gofyn sut y gallwn ailystyried, 'trawswladoli' a dad-drefedigaethu astudiaethau ardal? Pa ddulliau ymchwil, offer cysyniadol, a safbwyntiau beirniadol a chreadigol eraill y gallwn eu dwyn i'n hysgwyddo? A allwn ddatblygu agenda ymchwil sy'n wahanol i GLAS ac yn ei ategu?

Diwylliannau Argyfwng
Noda llefarydd nofel ôl-Brexit Ali Smith Autumn (2016) wrth drafod y mudiad cyfoes: ‘It was the worst of times, it was the worst of times. Again.’ Yma, mae Smith yn mynegi nid yn unig y synnwyr bod y gorffennol diweddar wedi bod yn llawn argyfyngau di-ddiwedd (o argyfwng bancio 2007-2008 i bandemig presennol Covid-19), ond hefyd (gan gyfeirio at Dickens) yn cydnabod mai dim ond drwy gofio'r gorffennol diweddar iawn mae modd deall ein sefyllfa argyfyngus bresennol fel un newydd.

Os yw Smith yn gofyn i ni gael ychydig o bersbectif, gall fod hefyd yn wahoddiad i archwilio ein hymateb i'r argyfwng. Yn wreiddiol yn derm a ddefnyddiwyd mewn meddygaeth i nodi trobwynt clefyd, oedd yn arwain at wellhad neu farwolaeth, yn ei wraidd Groegaidd mae'r gair yn cynnwys y ferf krinein, sy'n golygu beirniadu neu wahaniaethu. Felly, mae argyfwng hefyd yn fater o wneud penderfyniad. Fel gyda phandemig presennol Covid, gall ysgogi newidiadau radical yn yr un modd ag y mae'n awgrymu diwygiad terfynol. All 'yr adegau gwaethaf' arwain at 'yr adegau gorau'? A sut mae'r argyfwng yn ein helpu i ddychmygu'r opsiynau eraill hynny?

Yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021, bydd yr Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, fydd yn cael ei harwain gan dair thema ymchwil, sy'n mynd i'r afael â'n cysyniad o argyfwng, a'n hymatebion i hynny mewn cyd-destun cyfoes a hanesyddol. Bydd y digwyddiadau'n gofyn sut caiff ein ymdeimlad o argyfwng a'i bosibiliadau eu cyfleu mewn ystod o gyfryngau a disgyrsiau. Bydd pob digwyddiad ar-lein ac yn rhad am ddim. Bydd angen cofrestru, a bydd recordiadau ar gael ar sianel YouTube yr Ysgol.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 7 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn