Ewch i’r prif gynnwys

Cyfiawnder Cefnforol: Gwersi gan Gyfaddawdau wrth Weithredu Nod 14 Datblygiad Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn y Seychelles.

Dydd Iau, 26 Tachwedd 2020
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Ocean

Susan Baker, Poppy Nicol a Natasha Constant

Mae'r amgylchedd morol yn adnodd pwysig ar gyfer hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG) 14, Bywyd o Dan y Dŵr, yn tynnu sylw at yr angen i gydbwyso'r dimensiynau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol wrth ddefnyddio cefnforoedd y Byd. Fodd bynnag, gall cyfaddawdau godi hefyd rhwng gweithredu’r nodau datblygu cynaliadwy a lles gwahanol grwpiau o bobl.

Rydym yn archwilio'r cyfaddawdau sy'n dod i'r amlwg drwy weithredu nod datblygu cynaliadwy 14 a rhai eraill yn y Seychelles drwy lens cyfiawnder dosbarthol a gweithdrefnol. Rydym yn defnyddio dadansoddiad cynnwys o lenyddiaeth lwyd a pholisi, ac o ddata ansoddol sy'n deillio o weithdai rhanddeiliaid a thrafodaethau grwpiau ffocws, i archwilio'r cyfaddawdau rhwng ehangu gwarchodaeth forol drwy fenter polisi'r Economi Las a Chynllunio Gofodol Morol a bywoliaeth a lles pysgotwyr crefftus.

Rhannwch y digwyddiad hwn