Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd, drwy bartneriaethau hirdymor ar sail Ileoedd.

Dydd Iau, 15 October 2020
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Grange Pavillion

Mhairi McVicar a’r Porth Cymunedol

Yn 2012, fe wnaeth wyth aelod staff o Brifysgol Caerdydd ymrwymo i ddatblygu partneriaeth hirdymor gyda chymuned leol, gan bwysleisio'r angen am 'berthynas go iawn ac nid carwriaeth ar y slei' fel y dywedodd un preswylydd.

Gan ei dreialu yn Grangetown, ward etholiadol mwyaf amrywiol Cymru o ran ethnigrwydd, dechreuodd platfform partneriaeth Porth Cymunedol gyda galwad agored i unigolion a sefydliadau ar draws Grangetown a Phrifysgol Caerdydd am syniadau ar gyfer cydweithio rhwng y gymuned a'r brifysgol. Mae 245 o ddatganiadau o ddiddordeb wedi lansio 60 o brosiectau, gan ddod ag 19 o ysgolion Prifysgol Caerdydd ynghyd â thros 30 o bartneriaid trydydd sector a chyflawni dros £2 miliwn o fuddsoddiad yn Grangetown. O Fforwm Busnes Grangetown a Marchnad Stryd y Byd Grangetown, i Gaffis Athroniaeth, partneriaethau ymchwil y Gymuned Somali, rhwydweithiau Iechyd Meddwl a Chorfforol, a Gyrfa, mentrau Model Rôl a Mentora Academaidd, mae'r partneriaethau a ddaeth yn sgîl y Porth Cymunedol wedi amlygu ymchwil, addysgu a gwirfoddoli ar y cyd gan ganolbwyntio ar fudd hirdymor gwirioneddol y gall pawb elwa ohono.

Fel ein prosiect partneriaeth cyntaf, mae lansiad Pafiliwn Grange ym mis Hydref 2020 fel ailddatblygiad cymunedol o gyn-Bafiliwn Bowls yn cynrychioli ein hwyth mlynedd cyntaf o weithio mewn partneriaeth, a dyma o hyd yw hanfod y cydweithio parhaus rhwng y gymuned a'r Brifysgol yn Grangetown.

https://www.cardiff.ac.uk/community-gateway

@CommunityGtwy

mcvicarm@cardiff.ac.uk

Rhannwch y digwyddiad hwn