Ewch i’r prif gynnwys

Arloesi yng Nghymru

Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2020
Calendar 11:00-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Wrth i Gymru adfer ar ôl COVID-19, bydd arloesedd yn hollbwysig.

Mae canolbwynt newydd ar gyfer datblygu busnes - CardiffInnovations@sbarc I spark - yn cynnig lle i dyfu syniadau a fydd yn dod yn fusnesau newydd, sgîl-gynhyrchion, busnesau myfyrwyr a mentrau cymdeithasol.

 

Ymunwch â ni mewn gweminar ddydd Mercher 15 Gorffennaf am 11am i gael rhagor o wybodaeth am y manteision gall eich sefydliad gael o Arloesedd Caerdydd @ sbarc | spark. 

 

Bydd y ganolfan yn cael ei chynnal yn sbarc I spark - y cyfleuster arloesedd mwyaf o'i fath yng Nghymru, sy’n cynnig ystod o fannau arloesi, swyddfeydd a labordai.  

 

Bydd yn cydleoli ochr yn ochr ag arbenigwyr o SPARK - casgliad o 11 o grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol blaenllaw sy'n arwain astudiaethau arloesol sy'n ffurfio cymdeithas.

 

Bydd y digwyddiad ar ffurf seminar trwy Microsoft Teams gyda meicroffon pawb sy’n gwrando wedi’i dewi. 

 

Ceir mynediad yn rhad ac am ddim trwy'r ddolen isod, ac mae’n agored i'ch aelodau. 

 

Bydd y sesiwn yn clywed gan:

  • Dr Nick Bourne, Pennaeth Datblygu Masnachol, Prifysgol Caerdydd, a fydd yn amlinellu manteision Arloesedd Caerdydd @ sbarc | spark; 
  • Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth; 
  • Stuart Gall, Prif Swyddog Gweithredol Intelligent Ultrasound - arloeswr partner gyda Phrifysgol Caerdydd;
  • Yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SPARK.

 

 

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau wedi'u teipio ar ddiwedd y sesiwn, ac i gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad wrth iddo agosáu at gael ei gwblhau

 

Cadwch eich lle yma:

https://www.eventbrite.co.uk/e/cardiff-innovations-sbarc-i-spark-tickets-108864049302

Rhannwch y digwyddiad hwn