Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrau Gwobrau a Gwleidyddiaeth: Ail-feddwl Bywyd Dosbarth Gweithiol ym Mhrydain yn y Cyfnod Edwardaidd

Calendar Dydd Iau 5 Mawrth 2020, 09:00-Dydd Gwener 1 Mai 2020, 12:56

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Prize Books and Politics
Ar ddechrau’r cyfnod Edwardaidd (1901-1914), roedd dosbarthiadau gweithiol Prydain a oedd yn 75% o’r boblogaeth ar y pryd yn un o’r mwyaf llythrennog a gweithgar yn wleidyddol yn y byd. Roedd hyn o ganlyniad i dros ugain mlynedd o addysg orfodol rad ac am ddim, yn ogystal â datblygiad y mudiad Llafur, a oedd wedi’i nodweddu gan lu o undebau llafur a sosialaeth. Mae nodiadau mewn llawysgrifen o fewn llyfrau yn cynnig cyfle i archwilio bywydau pobl dosbarth gweithiol y cyfnod Edwardaidd, oherwydd eu bod yn dystiolaeth uniongyrchol o’u harferion darllen, cylchoedd cymdeithasol, swyddi, hobïau a’u credoau crefyddol a gwleidyddol. Mae rhai yn datgelu safbwyntiau dylanwadol pobl a ddaeth yn Aelodau Seneddol i’r Blaid Lafur neu’n arweinwyr Undebau Llafur, ond mae’r rhan fwyaf yn gofnod o leisiau coll pobl gyffredin y cyfnod fel y gweision, y gwniadwragedd a’r glowyr. Mae Llyfrau Gwobrau a Gwleidyddiaeth yn brosiect digidol newydd sy’n dod â nifer o’r straeon coll yma yn fyw, gan annog pobl i edrych ar fywyd dosbarth gweithiol y cyfnod Edwardaidd o’r newydd.

Rhannwch y digwyddiad hwn