Persbectif ar yr Economi Sylfaen gan Mark Lang
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae diddordeb cynyddol yn yr hyn a elwir yr ‘Economi Sylfaenol’. Cafodd ei diffinio gan y Ganolfan Ymchwil am Newid Cymdeithasol a Diwylliannol fel ‘...economi sy’n diwallu anghenion pob dydd drwy ddarparu gwasanaethau a nwyddau a gymerir yn ganiataol...’.
Mae cefnogaeth gynyddol o blaid y syniad y gallai Economi Sylfaenol wedi’i hadnewyddu gynnig manteision cymdeithasol i gymunedau o dan anfantais drwy alluogi model mwy gwasgaredig o weithgarwch economaidd.
Hyd yma, fodd bynnag, nid yw’r trafodaethau am botensial yr Economi Sylfaenol i gynnig budd amgylcheddol cadarnhaol wedi’u datblygu i’r un graddau. Bydd y papur byr hwn yn dechrau edrych ar hyn ac yn dadlau’r achos dros y buddiannau amgylcheddol y gellir eu cyflawni, yn ogystal â’r rhai cymdeithasol sy’n bosibl.
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA