Ewch i’r prif gynnwys

Instagram: Symposiwm

Dydd Sadwrn, 29 Chwefror 2020
Calendar 12:00-16:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

August Sander, Sekretärin, 1931.

Cyfrwng cymdeithasol. Cwmni gwerth biliynau. Cartref ffasiwn ffitrwydd, afocados ai frecwast, a ffotos wedi ffiltro. Mae Instagram yn le i ni rannu'n bywydau a chael cip ar fywydau eraill - ffrindiau, teulu, dylanwadwyr ac enwogion. Ond beth yw effaith y ffrwd ddiddiwedd o ffotograffau arnom mewn gwirionedd? Sut mae'r platfform yn llywio ein dealltwriaeth o ffotograffiaeth gyfoes fel arfer dyddiol a chelfyddyd?

Ymunwch â ni i drafod lle Instagram fel cyfrwng allweddol i gelfyddyd a diwylliant cyfoes. Bydd y symposiwm hanner diwrnod yn rhoi llwyfan i amryw o arbenigwyr, gan gynnwys haneswyr celf a gwybodusion y cyfryngau drafod ag artistiaid gweledol o Dde Cymru a thu hwnt. Mewn cyfres o drafodaethau bwrdd crwn a phanel, byddwn yn ystyried yr hunlun fel genre portreadu newydd, yn edrych ar brojectau hanesyddol neu artistig mentrus a ddatblygodd ar Instagram, ac yn gweld sut mae artistiaid yn defnyddio'r platfform.

Ymhlith y siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau mae Alix Beeston (Prifysgol Caerdydd), Bronwen Colquhoun (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd), Huw Alden Davies (artist), Cadence Kinsey (Coleg y Brifysgol Llundain), Alexandra Kingston-Reese (Prifysgol Caerefrog), Alexandra Georgakopoulou (Coleg y Brifysgol Llundain), Michal Iwanowski (artist), a Celia Jackson (Prifysgol De Cymru).

Cynhelir y symposiwm yn ystod Tymor Ffotograffiaeth Amgueddfa Cymru ac ar benwythnos olaf Ystafell Artist: August Sander, arddangosfa o rai o bortreadau ffotograffig pwysicaf y cyfrwng. Mae cost y tocyn yn cynnwys taith dywys drwy'r arddangosfa, gan roi cyfle i gyfranwyr fyfyrio ar y cyswllt rhwng diwylliant digidol a hanes ffotograffiaeth - yn yr amgueddfa a thu hwnt.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg, ond rydym yn hapus i drefnu hwylusydd Cymraeg. Er mwyn rhoi cyfle i ni drefnu hwylusydd, gofynnwn i chi e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk o leiaf wythnos cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda.

Oriel Suite
National Museum Cardiff
Gorsedd Gardens Road
Cardiff
CF103NP

Rhannwch y digwyddiad hwn