Ewch i’r prif gynnwys

Adeiladu Llosgfynydd

Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2019
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Inside a volcano

O fwynau i ludw: sut mae’r tu mewn i losgfynyddoedd peryglus yn gweithio

Mae llosgfynyddoedd yn fwyaf adnabyddus am eu potensial i ddifrodi – trwy ffrwydradau trychinebus ac allyriadau nwy sy'n newid yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae llosgfynyddoedd hefyd o fantais sylweddol i'r ddynoliaeth, oherwydd eu bod yn creu priddoedd folcanig ffrwythlon a’u bod yn dyddodi mwynau metel. Rhaid i unrhyw gyfrif daearegol o losgfynyddoedd esbonio tueddiad rhai systemau magma i arwain at ffrwydradau, tra bo eraill yn caledu o dan y ddaear, gan ffurfio dyddodion mwyn o bryd i’w gilydd. A all un model esbonio’r ddau ganlyniad hyn?

Yn y ddarlith gyhoeddus hon, bydd yr Athro Blundy yn trafod sut mae ein cysyniad o systemau folcanig wedi esblygu yng ngoleuni astudiaethau geoffisegol a geocemegol diweddar o'r cysyniad o siambr magma glasurol – y mae gwerslyfrau mor hoff ohono – i system fwy cynnil o graig rhannol doddedig sy'n meddiannu cramen gyfan y Ddaear bron. Bydd yr Athro Blundy’n esbonio sut gall ‘systemau magma trawsgramennol’ gyfrif am ganlyniadau hollol wahanol yn ôl pob tebyg, (“lludw neu fwynau”) a’r hyn y mae systemau o’r fath yn ei olygu o ran monitro llosgfynyddoedd aflonydd. Bydd yn dangos y gall y cyfnod hyd at ffrwydradau mawr iawn fod yn llawer byrrach nag a dybiwyd yn flaenorol, tra bo rhai o ddyddodion mwyn copr mwyaf y byd yn gallu ffurfio mewn chwinciad yn ddaearegol. Bydd y sgwrs yn tynnu ar enghreifftiau o waith maes yr Athro Blundy yn rhai o ranbarthau folcanig mwyaf peryglus y byd, gan gynnwys yr Andes, Ynysoedd Lesser a Cascades Range yng ngorllewin UDA.

Am y siaradwr

Mae Jon Blundy yn betrolegydd tanllyd, sydd â diddordeb ym mhopeth yn ymwneud â magma, o gynhyrchu magma yn y gramen a'r fantell i olrhain geocemeg elfen, folcanigrwydd gweithredol a ffurfio mwynau. Mae’n trin y pynciau hyn drwy gyfuno arsylwadau maes, thermodynameg, dadansoddiadau geocemegol, ac arbrofion pwysedd uchel a thymheredd. Mae’n Athro Petroleg ym Mhrifysgol Bryste (y DU) ers 1989. Mae wedi bod mewn swyddi gwadd ym mhrifysgol Oregon a Nagoya (Japan), Sefydliad Technoleg Canada, ac UWA ar hyn o bryd, lle mae’n Gymrawd Gwadd Roberts a Maude Gledden. Mae wedi cyhoeddi oddeutu 200 o erthyglau mewn llenyddiaeth wyddonol ac wedi ennill nifer o ddyfarniadau am ei waith ymchwil, gan gynnwys Medal Ted Ringwood Cymdeithas Geocemeg Ewrop (2016) a medalau Bigsby (2005) a Murchison (2016) gan y Gymdeithas Ddaearegol. Fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 2008.

Cyfres Llosgfynyddoedd - popeth mae angen i chi ei wybod

Bydd y gyfres hon o ddarlithoedd yn cwmpasu amrywiaeth llosgfynyddoedd, eu gweithrediad a'u cynhyrchion, ynghyd â natur ffrwydradau a'r problemau o ran eu rhagweld, ynghyd â'u heffeithiau amgylcheddol a biolegol yn y gorffennol a'r presennol.

Oeddech chi'n gwybod bod y rhan fwyaf o echdoriadau folcanig - efallai hyd at 90% - yn digwydd o dan ddŵr ac nad ydym yn ymwybodol ohonynt i raddau helaeth? Mae yna lawer iawn nad ydym yn ei wybod am losgfynyddoedd, ond mae llawer o wybodaeth newydd gyffrous yn dod i'r amlwg o ymchwil barhaus.

Os oes angen i chi gael y sesiynau Holi ac Ateb yn Gymraeg, ebostiwch edwardsd2@caerdydd.ac.uk o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad.

Gweld Adeiladu Llosgfynydd ar Google Maps
Wallace Lecture Theatre (0.13)
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Volcanoes - all you need to know