Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu o Lawr Gwlad

Dydd Sadwrn, 9 Tachwedd 2019
Calendar 10:00-17:01

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Grassroots

Yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, rydym yn ymddiddori mewn sut mae mudiadau cymdeithasol yn allweddol ar gyfer lledaenu a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Sut mae ffermwyr radical yn datblygu ac yn rhannu arferion amaethyddol cynaliadwy? Sut mae mudiadau cymdeithasol yn tyfu'n fwy ar draws rhwydweithiau drwy wahanol agweddau at hyfforddiant? A beth all sefydliadau ffurfiol, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion ei ddysgu gan yr agweddau pedagogaidd amrywiol hyn, sydd wedi’u hymgorffori mewn cyfiawnder cymdeithasol a dinasyddiaeth weithredol?

Mae’r digwyddiad rhyngweithiol diwrnod o hyd hwn yn canolbwyntio ar yr ystod eang o arferion dysgu a hyfforddi a ddefnyddir gan fudiadau cymdeithasol, rhwydweithiau llawr gwlad a grwpiau cymunedol. Drwy arddangos ymchwil i ‘Ddysgu Mudiadau Cymdeithasol’, gan gynnwys gweithdai rhyngweithiol a gynhelir gan ymgyrchwyr sy’n rhan o fudiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ein nod yw agor gofod i athrawon, darlithwyr a threfnwyr cymunedol ddysgu gan yr agweddau creadigol a llorweddol tuag at ddysgu a hyfforddiant. Rydym yn gwahodd grwpiau lleol i rannu eu profiadau eu hun, a chymryd rhan mewn trafodaeth am ddysgu a hyfforddiant sy’n seiliedig ar leoedd gydag ymchwilwyr, actifyddion ac addysgwyr.

Rydym yn credu y gallai’r arferion dysgu arloesol a ddefnyddir gan sefydliadau ar lawr gwlad lywio gweithgarwch ymchwil academaidd, ac i'r gwrthwyneb. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnig fforwm ar gyfer rhannu ac ystyried ein gwahanol fathau o arbenigedd.

Gallwch ddewis mynd i sesiynau penodol neu fwynhau’r rhaglen lawn.

Rhaglen

10:00 - 10:30        Cyflwyniad a chyfle i bawb gwrdd.

10:30 - 11:15        Sesiwn Syniadau Dynamig

Ymchwil Gweithgarwch Cyfranogol - Pat Gregory (Momentum ac Extinction Rebellion) ac Alice Taherzadeh (Prifysgol Caerdydd)

Dysgu mewn Gerddi Cymunedol Poppy Nicol (Prifysgol Caerdydd)

Movement DNA - Frieda Lurken (Extinction Rebellion)

FarmHack - Chris Maughan (Prifysgol Coventry)

Lle i Gymuned - Neil Turnbull (Prifysgol Caerdydd)

Fy Myd Fy Nghartref Aaron Thierry (Cyfeillion y Ddaear)

11:15 - 11:30        Egwyl Te

11:30 - 12:30        Sesiwn Gweithdy 1 [Gweithio Ynghyd]

[G1] Clywed Llais Pawb: cynllunio digwyddiadau a chyfarfodydd i greu cysylltiadau, rhannu hwyl a meddwl da, a herio effeithiau anghydraddoldeb strwythurol. - Pat Gregory (Momentum ac Extinction Rebellion)

[G2] Y defnydd o wrando gweithredol wrth ddatblygu actifiaeth gynaliadwy: Yn y gweithdy hwn, byddwn yn ymarfer sgiliau mewn gwrando actif fel offeryn i feddwl am sut gellir myfyrion bersonol ac ystyried ein cymhellion, er mwyn ein helpu i osgoi chwythu ein plwc o ran actifiaeth. - Aaron Thierry (Cyfeillion y Ddaear)

[G3] Manteisio ar Feddwl y Llu: defnyddio pŵer torfol cyfranogwyr i ddatrys problemau. Dewch her iw hystyried gydaân gilydd - Hannah Pitt (Prifysgol Caerdydd)

12:30 - 13:30        Cinio ar y Cyd: Dewch bwyd figanaidd/llysieuol iw rannu. Bydd platiau ar gael iw defnyddio ond byddaiân fwy cynaliadwy pe gallech ddod ch plâch cyllell ach fforc eich hun.

13:30 - 15:00        Sesiwn Gweithdy 2 [Dulliau Creadigol]

[G4] Actifiaeth Ddychmygus, Ffuglen Weledigaethol ac Ailysgrifennuâr Dyfodol: Yn y gweithdy hwn, byddaf yn cyflwyno fy ymchwil ddiweddar am y defnydd o ffuglen ddamcaniaethol gan actifyddion cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Byddaf yn amlinellu egwyddorion ffuglen weledigaethol a ddefnyddir gan Walidah Imarisha ac adrienne maree brown yn eu casgliad a olygwyd, Octaviaâs Brood: Science Fiction Stories from Social Justice Movements. Byddwn yn gweithio ar adrodd straeon ar y cyd, a ysbrydolir gan y newidiadau yr ydych am eu gweld yn y byd.

[G5] Llunio Gronau fel Ymarfer Myfyrio: Yn y gweithdy hwn, byddwn yn creu grawn am y llawenydd, yr heriau ar posibiliadau ar gyfer y dyfodol sydd ynghlwm wrth ddysgu ar lawr gwlad. Pa ddulliau ymgyrchu ydym am eu dathlu? Pa heriau syn ein rhwystro rhag datblygu sgiliau a gwybodaeth yn ein mudiadau. Sut beth fyddai cymdeithas œddiysgol? Bydd y gweithdy hwn yn ymarferol ac yn cynnwys gwaith creadigol cydweithredol ac unigol. Bydd yn gorffen drwy fyfyrio ar wneud gronau fel dull. Alice Taherzadeh (Prifysgol Caerdydd)

15:00 - 15:15        Egwyl Te

15:15 - 16:00        Dysgu gan Gynulliad y Werin

Byddwn yn cynnal cynulliad ir werin, er mwyn casglu syniadau pawb am y cwestiynau canlynol: Sut gall academia a sefydliadau addysgol eraill ddysgu gan arferion ar lawr gwlad? Sut gall sefydliadau neu ymchwil academaidd gyfrannu at yr arferion hyn neuu cefnogi? Sut anghydfod all godi wrth gydweithio?

16:00 - 16:30 Myfyrio ar y Cyd

Bydd Pat yn ein harwain drwy ôl-drafodaeth y digwyddiad, er mwyn trafod cwestiynau allweddol mewn grwpiau bach, ynan casglu ein myfyrdodau an bwriadau ar gyfer y dyfodol.

Cathays Community Centre
Cathays Community Centre
36-38 Cathays Terrace
Cardiff
CF24 4HX

Rhannwch y digwyddiad hwn