Ewch i’r prif gynnwys

Volancoes

Calendar Dydd Iau 10 October 2019, 18:30-Dydd Mawrth 12 Mai 2020, 18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd y gyfres fisol o ddarlithoedd nos Fawrth 2019–2020 Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr yn cael eu cynnal yn Narlithfa Wallace (0.13), Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc,

Caerdydd CF10 3AT.  Mae’r darlithoedd yn dechrau am 18.30.  Nid oes angen cadw lle.  Os oes angen i chi gael y sesiynau Holi ac Ateb yn Gymraeg, ebostiwch edwardsd2@caerdydd.ac.uk o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad.

Oeddech chi'n gwybod bod y rhan fwyaf o echdoriadau folcanig - efallai hyd at 90% - yn digwydd o dan ddŵr ac nad ydym yn ymwybodol ohonynt i raddau helaeth? Mae yna lawer iawn nad ydym yn ei wybod am losgfynyddoedd, ond mae llawer o wybodaeth newydd gyffrous yn dod i'r amlwg o ymchwil barhaus. Bydd y gyfres hon o ddarlithoedd yn cwmpasu amrywiaeth llosgfynyddoedd, eu gweithrediad a'u cynhyrchion, ynghyd â natur ffrwydradau a'r problemau o ran eu rhagweld, ynghyd â'u heffeithiau amgylcheddol a biolegol yn y gorffennol a'r presennol.

2019

Medi 10     Echdoriadau enfawr.   Steve Sparks, Prifysgol Bryste

Hydref 8     Campi Flegrei: Cawr aflonydd yr Eidal.    Wim Degruyter, Caerdydd

Tachwedd 12    Adeiladu llosgfynydd.  Jon Blundy, Prifysgol Bryste

Rhagfyr 10    Cyfrinachau Vulcan: byd cudd llosgfynyddoedd tanddwr.    Chris MacLeod, Caerdydd

2020

Ionawr 14     Llosgfynyddoedd: o fentiau yn corddi i ddifodiannau torfol. Tamsin Mather, Gwyddorau’r Ddaear, Rhydychen

Chwefror 11      Rhagfynegiadau o ffrwydradau.   Paul Cole, Prifysgol Plymouth

Mawrth 10    Cargo deimyntog gwerthfawr llosgfynyddoedd.    Wolfgang Maier, Caerdydd

Ebrill 21     Cymdogion peryglus: byw ochr yn ochr â llosgfynyddoedd sy'n ffrwydro.  Jenni Barclay, Prifysgol East Anglia

Mai 12 Llosgfynyddoedd a hanes dynol ryw. Caroline Williams a Cathy Cashman, Prifysgol Bryste

Gweld Volancoes ar Google Maps
Wallace Lecture Theatre (0.13),
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn