Cyrsiau Rhan-amser ar gyfer Oedolion Diwrnod Agored
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Rydym yn cynnig cyrsiau mewn amrywiaeth eang o bynciau ac ar sawl lefel. Nid oes angen llawer o gymwysterau arnoch i astudio’r rhan fwyaf o’n cyrsiau, dim ond diddordeb ym maes y pwnc. Bydd ein Darlithwyr Cydlynol wrth law i helpu i ateb eich cwestiynau a’ch ymholiadau. Os oes diddordeb gennych mewn ymrestru ar un o’n cyrsiau rhan-amser i oedolion, neu’n ystyried rhoi cynnig ar gwrs Llwybr Gradd, gallwn roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.
Darperir lluniaeth a bydd modd parcio am ddim yn y maes parcio drws nesaf ar ôl 5.00pm.
Cynhelir y sesiwn hwn am yr eildro ar yr un diwrnod agored am 17.00 tan 19.00.
21-23 Senghennydd Road
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG