Ewch i’r prif gynnwys

Delweddau o Loong/Draig mewn Chwedlau Tsieineaidd: A Thrafodaeth am y Ffordd o Ddeall Cyfathrebu Traws-Ddiwylliannol

Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2019
Calendar 10:30-11:10

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Chinese Dragon

Darlith agored i bawb sy'n rhan o'r Pedwerydd Deialog Symposiwm Academaidd rhwng Addysgu Iaith a Diwylliant Tsieineaidd a'r Celfyddydau.

Crynodeb
Ymysg pob math o symbolau diwylliannol Tsieineaidd cynrychiadol, “Loong/Draig” yn ddiau yw’r un sy’n arwain fwyaf at ddadleuon a gwrthdaro mewn cyfathrebu traws-ddiwylliannol: mae cysegredigrwydd Loong/Draig Tsieineaidd yn cyferbynnu’n llwyr â’r ddelwedd o’r ddraig ddrwg yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau’r Gorllewin, ac mae cyferbyniadau o’r fath yn aml yn esgor ar wrthdaro diwylliannol ac ethnig rhwng Tsieina a'r Gorllewin. O ganlyniad i hyn, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwella ein dealltwriaeth o amrywiaeth y delweddau Loong/Draig mewn cyd-destunau diwylliannol Tsieina a'r Gorllewin. Mae hyn yn ffordd bwysig o leihau’r gwrthdaro, i annog “bondiau rhwng pobl” a “chyfnewidiadau diwylliannol”, ac mae’n rhan annatod o gyfathrebu ac addysgu traws-ddiwylliannol.

Felly, mae’r papur yn edrych ar ddelweddau, rolau a swyddogaethau Loong/Draig mewn mythau hynafol Tsieineaidd. Drwy edrych ar gofnodion hanesyddol, mae’n datgelu nifer y delweddau a rolau oedd gan Loong/Draig yn hanes hynafol Tsieina, yn dangos ei newidiadau yn y broses hanesyddol Tsieineaidd, ac yn edrych ar ei berthynas gyda chredoau gwerin perthnasol cyfredol Tsieina. Nod y papur, sy’n seiliedig ar ymchwil hirdymor am fytholeg Tsieineaidd, yw gwella dealltwriaeth y gynulleidfa o ddiwylliant cyfoethog Loong/Draig Tsieina ac, o ganlyniad, bod o gymorth i gyfathrebu a dysgu traws-ddiwylliannol.

Bywgraffiad
Mae Dr Lihui Yang yn athro Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol ac yn Is-Ddeon yr Ysgol Iaith a Llenyddiaeth Tsieinëeg ym Mhrifysgol Normal Beijing, a Dirprwy Lywydd Cymdeithas Llên Gwerin Tsieina. Roedd yn athro gwadd ym Mhrifysgol Harvard (2006-2007) a Phrifysgol Indiana (2000-2001) yn yr UDA. Hi yw awdures nifer o fonograffau a phapurau ymchwil, gan gynnwys Handbook of Chinese Mythology (ABC-CLIO 2005, Rpt. Gwasg Prifysgol Rhydychen 2008). Enillodd ei gradd Ddoethurol mewn Llenyddiaeth Gynhenid o Brifysgol Normal Beijing yn 1994, ac enillodd wobrau o fri gan gynnwys ‘Athrawon Ifanc Rhagorol mewn Sefydliadau Addysg Uwch’ (Y Weinyddiaeth Addysg, Tsieina, 2000).

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener 5 Gorffennaf i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Siambr y Cyngor
Prif Adeilad
Parc y Plas
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn