Ewch i’r prif gynnwys

Ffiniau defnydd dŵr ac amaethyddiaeth yn yr Amazon ym Mrasil: gwrthddweud a gwrthdaro mewn llywodraethant dŵr gan Daniela Maimoni de Figueiredo

Dydd Gwener, 5 Gorffennaf 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae ffin amaethyddol yr Amazon ym Mrasil yn ffin defnydd dŵr hefyd o ystyried y cynnydd diweddar a chyflym o ddyfrhau gan fusnes amaethyddol mewn ffermio ungnwd (ffa soia) ac ar gyfer cynhyrchu ynni hydrodrydanol. Mae hyn yn rhan o ymdrechion Brasil i ennill eu plwyf mewn marchnadoedd rhanbarthol a byd-eang ar gyfer nwyddau ynni ac amaethyddol. Mae’r cynnydd hwn yn arbennig o amlwg ym masn afon Teles Pires, un o isafonydd yr Amazon sydd rhwng y safana a’r goedwig law yn Nhalaith Mato Grosso. Mae’r dyfrhau wedi cynyddu dros 90% yn y man hwn dros y pedair blynedd diwethaf ac mae pump o weithfeydd pŵer hydrodrydanol enfawr wedi’u hadeiladu.

Bydd y ddarlith hon yn cyflwyno astudiaeth a gynhaliwyd ym masn yr afon hon a ddadansoddodd y model llywodraethu dŵr. Fe edrychodd yn benodol ar sut mae Cyfraith Adnoddau Dŵr Brasil yn cael ei gweithredu a rôl cymdeithas wrth wneud penderfyniadau, yng nghyd-destun defnydd hanesyddol a llywodraethol y tir a modelau cynhyrchu ynni. Bydd hefyd yn trafod gwrthdaro dŵr, rhwng y cymunedau cynhenid a’r sector hydrodrydanol.