Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy IMA - Adborth effeithiol mewn mathemateg: darpariaeth ac ymrwymiad myfyrwyr

Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2019
Calendar 10:00-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cofrestru: Ymwelwch â’r tudalen eventbrite i gofrestru eich diddordeb ar gyfer y gweithdy erbyn Dydd Mawrth 4 Mehefin. Os oes unrhyw ymholiadau cysylltwch â Rob Wilson (wilsonrh@caerdydd.ac.uk).

Trosolwg: Mae ymchwil yn awgrymu fod gwella agweddau technegol o adborth yn unig (e.e. eglurder, manylder, amseroldeb, ansawdd ayb.) ddim yn ddigonol er mwyn i’r adborth cael ei ystyried yn “dda” gan fyfyrwyr, a bod angen ystyried ffactorau arall megis, 

- Datblygiad a disgwyliadau myfyrwyr; 
- Y cyd-destun asesiad lle darparir yr adborth; yn ogystal ag 
- Yr adborth ei hun.

Darparir y gweithdy yma'r cyfle i gyfranogion rhannu a thrafod yr agweddau yma o adborth yn arbennig yng nghyd-destun mathemateg. Mi fydd amrediad o siaradwyr gwadd (manylion isod) yn rhannu eu gwybodaeth, profiad a phersbectifau ar adborth i fframio a goleuo’r trafodaethau. Adeiladwyd cyfleoedd penodol ar gyfer rhannu a thrafod ymarfer gorau i mewn i’r rhaglen, gan gynnwys cyfle i bob cyfranogwr i amlygu syniadau neu feysydd diddordeb penodol trwy sgyrsiau  mellt. Mi fydd y cinio a’r sesiwn trafodaeth i gloi’r diwrnod yn darparu cyfleoedd pellach i archwilio’r syniadau yma.

Rhaglen:
10.00-10.20 Cofrestru a lluniaeth 
10.20-10.30 Croeso a chyflwyniadau 
10.30-11.30 Syniadau adborth sy’n gweithio (weithiau) - Mike Robinson, Prifysgol Sheffield Hallam 
11.30-12.15 Sgyrsiau mellt (Gwahoddir bob cyfranogwr i rannu meddyliau a syniadau) 
12.15-13.00 Cinio a rhwydweithio 
13.00-14.00 Adborth Cyflym Effeithiol - chwilio am y Greal Sanctaidd - Barrie Cooper, Prifysgol Exeter
14.00-15.00 Agweddau at Adborth yn y Gwyddorau Mathemategol: beth yn union ydy myfyrwyr yn eu meddwl? - Michael Grove, Prifysgol Birmingham 
15.00-16.30 Sesiwn trafodaeth (gan gynnwys lluniadaeth)


Siaradwr: Mike Robinson
Teitl: Syniadau adborth sy’n gweithio (weithiau)
Cyd-destun: Gwyddwn fod yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) wedi canolbwyntio ein meddyliau ar adborth; nawr mae angen i ni wella ei adborth heb ganolbwyntio yn gyfan gwbl ar yr ACF. Dyma rhai syniadau sydd wedi gweithio i rai pobl o leiaf rhan o’r amser.


Siaradwr: Barrie Cooper
Teitl: Adborth Cyflym Effeithiol - chwilio am y Greal Sanctaidd

Cyd-destun: Mae darparu adborth effeithiol yn gyflym yn her arwyddocaol mewn sector sydd lle mae’r lefel o bwysau yn codi ac amser yn mynd yn fwy prin. Ond mae effeithiolrwydd adborth yn lleihau y hired mae rhaid i fyfyrwyr aros amdano. Gan ganolbwyntio yn bennaf ar enghreifftiau o fathemateg, trafodwn ddetholiad o arddulliau asesiad ac adborth ar gyfer darparu adborth effeithiol ar berfformiad myfyrwyr yn gyflym. Darparir cyfleoedd yn ystod y sesiwn i gyfranogion rhannu enghreifftiau eu hunain o ymarferion adborth effeithiol.


Siaradwr: Michael Grove
Teitl: Agweddau at Adborth yn y Gwyddorau Mathemategol: beth yn union ydy myfyrwyr yn eu meddwl?
Cyd-destun: O fewn y gwyddorau mathemategol bodolir heriau arbennig yn gysylltiedig â darparu adborth amserol a manwl, sydd ill ddau yn bwysig wrth ystyried y defnydd eang o daflennu problemau ffurfiannol, ac fel arfer wythnosol, i gynorthwyo a strwythuro datblygiad mathemategol dysgwyr. Adroddaf ar ganlyniadau cylchred o ymchwil weithredu y dyluniwyd i wella’r adborth derbyniwyd gan fyfyrwyr a’u hymrwymiad dilynol gydag e, mewn adran gwyddorau mathemategol ymchwil-ddwys fawr. Trafodir agweddau myfyrwyr tuag at yr adborth maent yn eu derbyn, ond yn fwy cyffredinol, mae’r darganfyddiadau yn cynnig mewnwelediad i ymarferion adborth gwahanol efallai dymunir adrannau gwyddorau mathemategol eu harchwilio.

Trefnwyr: Rob Wilson a Mathew Pugh, Ysgol Mathemateg Caerdydd