Ewch i’r prif gynnwys

HealTAC 2019

Calendar Dydd Mercher 24 Ebrill 2019, 08:30-Dydd Iau 25 Ebrill 2019, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’r ail gynhadledd dadansoddi testunau gofal iechyd - HealTAC 2019. Mae naratif gofal iechyd (fel nodiadau clinigol, llythyrau rhyddhau, nodiadau trosglwyddo gan nyrsys, adroddiadau delweddu, sylwadau cleifion ar gyfryngau cymdeithasol neu adborth, ac ati) wedi bod yn llif cyfathrebu allweddol sy’n cynnwys y rhan fwyaf o ddata i’w roi ar waith ac mewn cyd-destun. Fodd bynnag, er ei fod ar gael yn ddigidol yn gynyddol, nid yw’n cael ei ddadansoddi’n rheolaidd ac anaml y caiff ei integreiddio â data arall ym maes gofal iechyd ar raddfa fawr.

Bydd HealTAC 2019 yn dod ag academyddion, clinigwyr, diwydiant a chleifion ynghyd i drafod y sefyllfa ohoni o ran prosesu testun rhydd gofal iechyd ac er mwyn rhannu profiad, canlyniadau a heriau. Bydd y rhaglen yn cynnwys cyflwyniadau allweddol (Yr Athro Hongfang Liu, Clinig Mayo a’r Athro Stephane Meystre, Prifysgol Feddygol De Carolina), papurau ymchwil, paneli trafod, fforwm diwydiant, fforwm PhD a sesiynau posteri.

Rhannwch y digwyddiad hwn