Ewch i’r prif gynnwys

Canfyddiadau’r cyhoedd o ddyfodol â llai o ddeunyddiau

Dydd Gwener, 1 Mawrth 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae angen newid sylweddol a radical wrth gynhyrchu a defnyddio deunyddiau a chynnyrch yn rhan o’r broses o newid tuag at gymdeithas mwy cynaliadwy, carbon isel. Roedd y prosiect EPSRC hwn yn ymchwilio i ba mor dderbyniol yn gymdeithasol yw ystod o strategaethau gwahanol er mwyn lleihau’r defnydd o adnoddau sy’n seiliedig ar yr hyn a ddefnyddir. Gwnaed hyn gydag aelodau o’r cyhoedd gan ddefnyddio adnoddau ymchwil ansoddol a meintiol. Cymerodd 51 o bobl ran yn y cam ansoddol i gyd. Cawsant eu rhannu’n bedwar grŵp yn seiliedig ar leoliad (Caerdydd a Bryste) a statws economaidd-gymdeithasol (incwm uchel ac isel). Dyluniwyd arolwg ar-lein i brofi canlyniadau’r gweithdai ansoddol mewn sampl ehangach, sy’n gynrychiadol yn genedlaethol o’r DU (n=1,500). Mae’r ymchwil yn cynnig dealltwriaeth anghyffredin a manwl i ganfyddiadau’r cyhoedd o strategaethau amgen y bydd angen eu hystyried er mwyn creu cymdeithas gynaliadwy, sy’n lleihau ar yr hyn a ddefnyddir.

Gweld Canfyddiadau’r cyhoedd o ddyfodol â llai o ddeunyddiau ar Google Maps
0.01
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA

Rhannwch y digwyddiad hwn