Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth am y cynllun

Mae’r Gronfa Cefnogaeth Strategol i Sefydliadau (ISSF) yn darparu cyfle i brifysgolion yn y DU i fuddsoddi mewn meysydd strategol o bwys ar draws eu portffolio.

Rydym wedi sicrhau £3.5m dros bum mlynedd (2016-2021) gan Ymddiriedolaeth Wellcome drwy’r ISSF. Bydd Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd (BLS) yn darparu £3.5m o arian cyfatebol.

Mae ein gwobr newydd, ISSF3, yn canolbwyntio ar:

  • galluogi ymchwilwyr i bontio i’r cam gyrfa nesaf, wedi’i sbarduno drwy wireddu gwyddoniaeth ac ymgysylltiad cyhoeddus newydd arloesol
  • creu cyfleoedd a thimau ymchwil newydd traws-ddisgyblaethol ar draws y Coleg, a thu hwnt
  • cefnogi unigolion talentog i ddychwelyd i’r Brifysgol, p’un a yw hynny o sefydliadau eraill neu ar ôl saib yn eu gyrfa
  • galluogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa (ECRs) i wella eu sgiliau, darparu hyfforddiant ymgysylltu a chyfleoedd rhwydweithiau galluogi gyrfaoedd
  • cynnal gweithgareddau ymgysylltu arloesol sy’n cynnig profiadau o ansawdd uchel ar gyfer y sawl sy’n eu cael, yn ogystal â’r ymchwilydd.

Archwilio cyfleoedd cyfredol a gwybodaeth am sut i wneud cais.

Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa

Bydd gan ISSF3 gyllid yn arbennig ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa (ECR) sydd wedi’i anelu at gefnogi:

  • gwella sgiliau gwyddonol
  • profiad gwaith y tu allan i’r Sefydliad, gan gynnwys gyda’r maes fferyllol, y diwydiant, neu lywodraeth
  • cyfleoedd i rwydweithio
  • casglu data rhagarweiniol i gefnogi grantiau cyntaf
  • darpariaeth a hyfforddiant ymgysylltu cyhoeddus.

Bydd Arweinydd ECR Coleg newydd yn goruchwylio’r gweithgarwch hwn, gydag adborth yn cael ei ddarparu i ECRs sy’n gwneud cais am gynlluniau, yn ogystal â darparu mentoriaeth i helpu i hybu canlyniadau ISSF3 llwyddiannus. Bydd hyfforddiant ymgysylltu yn adeiladu hyder, dealltwriaeth ac arbenigedd, gan gynhyrchu gwyddonwyr sydd, o ddechrau eu gyrfaoedd, yn gallu gweithredu fel llysgenhadon i ymgysylltu cyhoeddus.

Bydd ECRs yn cael eu mentora’n weithredol i wella eu llwyddiant wrth ennill dyfarniadau, a throsi canlyniadau yn gyllid allanol. Bydd y mentora hwn yn cael ei ddarparu gan bwyllgor mentora ECR sy’n gysylltiedig ag ISSF3, gan helpu i hwyluso diwylliant lle mae ymchwilwyr profiadol yn galluogi llwyddiant ein hacademyddion iau.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Bydd cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei ymgorffori yn narpariaeth ein ISSF3 gan sicrhau ein bod yn cynnwys ac yn cynrychioli’r holl ymchwilwyr yn y Coleg. Bydd Aelodau’r Panel yn ymgymryd â hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, a gan weithio gyda Thîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol, byddwn yn peilota dull Sefydliadaol o fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth galwadau ymchwil mewnol, o aelodaeth y panel i ganlyniadau llwyddiannus.

Bydd Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn adrodd ar ein cynllun peilot i Bwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol gan lywio datblygiad polisïau newydd ynghylch galwadau cyllid mewnol ym mhob rhan o’r Brifysgol.

Fel rhan o ISSF3, rydym hefyd yn ceisio hybu ymgysylltiad yn y cynllun gan unigolion sydd wedi cymryd seibiant gyrfa, ac sydd angen amser - yn ôl yn yr amgylchedd ymchwil - i ddatblygu eu hyder, gwybodaeth a sgiliau ymchwil i fod yn gystadleuol ar gyfer swyddi ôl-ddoethurol, cymrodoriaeth neu swyddi darlithio.

Ymgysylltu

Bydd ein hymgysylltiad cyhoeddus ISSF3 yn cael ei ddarparu fel gweithgarwch gyrfa wedi’i ymgorffori, gan gefnogi sgiliau ymgysylltu gwell ar draws yr oes academaidd, gan adlewyrchu’r dull a ddefnyddir ar gyfer ymchwil. Bydd Swyddog Ymgysylltu’r Coleg penodol yn gweithio’n agos gyda Thîm Ymgysylltu’r Brifysgol ac Arweinydd Ymgysylltu Academaidd y Coleg ISSF3 newydd i ddatblygu Strategaeth Ymgysylltu gynhwysfawr ar gyfer y Coleg.

Ein huchelgais yw uno ymchwilwyr o amgylch nodau ymgysylltu synergistaidd, annog dull yn seiliedig ar gyfathrebu a gwella ansawdd a gwerth y profiad ymgysylltu ar gyfer y sawl sy’n ei brofi, yn ogystal â’r ymchwilydd.