Ewch i’r prif gynnwys

Uned Gyswllt y GIG

mae Uned Gyswllt y GIG yn hwyluso perthnasau gweithio da rhwng y Brifysgol a chyrff y GIG yng Nghymru i gefnogi darparu addysg meddygol o ansawdd uchel.

Medical results and stethoscope

Mae gwaith Uned Gyswllt y GIG (NHSLU) yn syrthio i 3 prif faes:

Perthnasau gyda chyrff y GIG

Mae’r Uned yn gwasanaethu nifer o Fyrddau “Partneriaeth” ffurfiol rhwng y Brifysgol a nifer o Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, GIG Felindre ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Uned hefyd yn rheoli’r broses ar gyfer penodi staff y Brifysgol i wasanaethu fel Aelodau Annibynnol ar Fyrddau nifer o Fyrddau Iechyd Prifysgolion ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru.

Teitlau Anrhydeddus

Dyfernir Teitlau Anrhydeddus i staff y GIG am eu hymgysylltiad i addysgu myfyrwyr meddygol israddedig. Dylech lawrlwytho ffurflen gais isod os yn berthnasol:

Honorary title application form for NHS staff

Ffurflen gais am deitl anrhydeddus ar gyfer staff y GIG.

Honorary title application form for Cardiff & Vale UHB staff

Ffurflen gais am deitl anrhydeddus ar gyfer staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Uned Cydlynu SIFT Cymru Gyfan (AWSCU)

Mae’r Uned hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn rheoli nifer o agweddau ar y lleoliadau clinigol a ymgymerir gan fyfyrwyr meddygol - ym Mhrifysgol Caerdydd ac Abertawe - mewn ysbytai a meddygfeydd ledled Cymru. Mae gwaith yr Uned hon yn cynnwys:

  • ariannu staff yn Ysgolion Meddygaeth y ddwy Brifysgol sydd yn ymwneud gyda dyrannu myfyrwyr i leoliadau clinigol ledled Cymru
  • casglu adborth myfyrwyr meddygol ar eu profiad o’r lleoliad clinigol, drwy holiaduron ar-lein, a rhannu’r adborth hwn gyda’r prifysgol, cyrff GIG yng Nghymru, a Llywodraeth Cymru
  • trefnu cyfarfodydd Adolygu Addysgu Blynyddol rhwng y prifysgol a’r byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru i adolygu profiad lleoliad clinigol myfyrwyr meddygol ac i drafod unrhyw faterion perthnasol eraill
  • ar ran Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, rheoli’r broses o ddyfarnu Teitlau Prifysgol Anrhydeddus i staff y GIG yng Nghymru sy’n ymwneud ag addysg lleoliadau clinigol
  • cynhyrchu amrywiaeth o ddogfennau a chasglu nifer o dderbyniadau gan Gyrff y GIG sy’n ymwneud â lleoliadau clinigol a’u cyllid (SIFT).

Cronfeydd Gwaddol y Brifysgol

Mae’r NHSLU hefyd yn gweinyddu nifer o Gronfeydd Gwaddol y Brifysgol sy’n ymwneud ag iechyd, gan ddarparu cyllid ar gyfer nifer o weithgareddau penodol, y gellir manteisio arnynt gan staff a myfyrwyr y Coleg.

Cysylltu â ni

Os hoffech wneud ymholiad neu wneud cais am wybodaeth bellach, dylech gysylltu gyda:

Uned Gyswllt y GIG